Mae Plaid Cymru wedi addo creu rhwydwaith o 14 o ‘ganolfannau lles ieuenctid’ ledled Cymru i gefnogi iechyd meddwl pobl ifanc.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth, ymgeisydd Etholiadau Senedd Plaid Cymru ar gyfer Ynys Môn, heddiw (Dydd Llun, Ebrill 19) y byddai’r canolfannau cerdded i mewn yn cynnig ymyrraeth gynnar i bobl ifanc nad ydyn nhw’n ddigon sâl i fod angen triniaeth seiciatryddol uwch ond sydd angen cefnogaeth ar gyfer eu hiechyd meddwl o hyd, ac felly mewn perygl o “lithro drwy’r rhwyd.”

Mae ffigurau yn dangos bod mwy o bobl ym mis Medi 2020 yn aros am driniaeth iechyd meddwl nag unrhyw gyflwr arall, meddai Plaid Cymru.

Byddai’r polisi’n seiliedig ar fodel llwyddiannus sy’n cael ei ddefnyddio yn Seland Newydd a byddai’n “chwyldroi’r ffordd y mae pobl ifanc yn cael mynediad at gymorth iechyd meddwl”.

Dywed Plaid Cymru bod eu polisïau ar ddarpariaeth iechyd meddwl ieuenctid wedi cael eu cefnogi gan grëwr a golygydd Bricks Magazine, Tori West, sy’n aml yn trafod iechyd meddwl gyda’i dilynwyr ar ei llwyfannau cyfryngau cymdeithasol.

Yn ôl Tori West byddai canolfannau lles ieuenctid Plaid yn “gam gwych ymlaen i Gymru” gan ychwanegu: “Mae ymyrraeth gynnar a mynediad cynnar cyn i rywun gyrraedd trobwynt yn hanfodol, rhywbeth y byddai’r Canolfannau Lles Ieuenctid yn chwarae rhan enfawr ynddo.

Iechyd meddwl wedi “dirywio”

Dywedodd ymgeisydd Plaid Cymru a llefarydd iechyd y blaid, Rhun ap Iorwerth:

“Fel tad i dri pherson ifanc, rwy’n gwybod pa mor galed y bu’r pandemig a’r holl heriau a ddaw gydag ef i’w cenhedlaeth nhw.

“Dyna pam y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn creu rhwydwaith cenedlaethol o 14 o ganolfannau lles mewn adeiladau yng nghanol y dref sydd heb eu defnyddio ar hyn o bryd lle gallai pobl ifanc gael cyngor gan gwnselwyr a therapyddion.

“Canfu ymchwil gan Mind Cymru fod 74% o bobl ifanc 13-24 oed wedi dweud bod eu hiechyd meddwl wedi dirywio yn ystod y cyfnod clo cyntaf.

“Mae yna berygl gwirioneddol y gallai’r bobl ifanc hyn nad ydyn nhw’n ddigon sâl i fod angen triniaeth seiciatryddol ddatblygedig ond sy’n dal i fod angen cymorth iechyd meddwl lithro drwy’r rhwyd.

“Mae gwaith gwych eisoes yn cael ei wneud ledled Cymru gan ganolfannau cymorth a sefydliadau, ond mae angen ac yn haeddu llawer mwy o gefnogaeth ar fentrau o’r fath.

“Byddai cynlluniau Plaid yn anelu at lenwi’r bwlch mawr yn y ddarpariaeth sydd wedi tyfu o dan y llywodraeth Lafur ddiwethaf ac anfon neges glir at bobl ifanc Cymru ein bod yn gadarn ar eu hochr nhw.”