Mae’r Urdd wedi cyhoeddi 60 o swyddi newydd heddiw (dydd Llun, Ebrill 19), wrth i’r mudiad ieuenctid geisio adeiladu ar gyfer y dyfodol.

O ganlyniad i’r gefnogaeth ariannol ddiweddar gan Lywodraeth Cymru, mae’r Urdd wedi gallu lansio’r ymgyrch recriwtio genedlaethol.

Yr Urdd oedd y cyflogwr trydydd sector cyfrwng Cymraeg mwyaf yng Nghymru cyn dechrau’r pandemig Covid-19, ac roedden nhw’n cyflogi 328 aelod o staff.

Ond collodd y mudiad 54% o’r gweithlu yn ystod y pandemig.

Bellach, yn sgil diogelu swyddi a £1.3m gan Lywodraeth Cymru, bydd yr Urdd yn gallu ailadeiladu gwasanaethau a chreu swyddi newydd ar drothwy eu canmlwyddiant.

Mae ymgyrch recriwtio’r Urdd yn cynnig 60 o swyddi llawn amser ar draws pob un o adrannau’r mudiad, sydd â chanolfannau a swyddfeydd wedi’u lleoli ar hyd a lled Cymru.

Mae hyn yn cynnwys 20 swydd newydd o fewn yr Adran Brentisiaethau. Prif nod yr Adran Brentisiaethau yw datblygu a meithrin gweithlu ifanc, hyderus a dwyieithog, ac ers ei sefydlu mae cannoedd o Gymry ifanc wedi elwa o’r ddarpariaeth, meddai’r Urdd.

‘Dangos cefnogaeth i’r genhedlaeth iau yn bwysicach nag erioed’

“Mae dangos cefnogaeth i’r genhedlaeth iau yn bwysicach nac erioed,” meddai Siân Lewis, prif weithredwr yr Urdd.

“Mae plant a phobl ifanc wedi’u heffeithio yn fwy na neb gan y pandemig, ac mae ein gwaith adfer yn canolbwyntio’n bennaf ar gefnogi iechyd a lles ein hieuenctid, ynghyd â darparu cyfleoedd gwaith hanfodol a hyfforddiant amhrisiadwy trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Fel corff gwirfoddol, dielw, mae pob ceiniog o incwm rydym yn ei dderbyn yn cael ei ail-fuddsoddi i wella bywydau ieuenctid Cymru.

“Mae’r grant diweddaraf yma gan Lywodraeth Cymru yn hwb sylweddol i’n cynorthwyo wrth i ni ail-adeiladu yn dilyn effaith Covid-19 ar ein gwasanaethau a’n sefyllfa staffio.

“Mae medru darparu hyfforddiant at hynny yn hynod werthfawr, a credwn yn gryf fod hurio prentisiaid yn fuddsoddiad pwysig iawn i’r dyfodol.”

£1.3 miliwn ychwanegol i helpu’r Urdd ‘ailadeiladu’

“Bydd yr arian yn helpu i ddiogelu swyddi allweddol yn yr Urdd, gan ei helpu i ddechrau ailadeiladu a chreu cyfleoedd gwaith newydd.”

Yr Urdd yn addasu ac arallgyfeirio i oroesi

Lleu Bleddyn

Wrth i un o wersylloedd yr Urdd baratoi i ofalu am gleifion Covid, Siân Lewis sydd yn edrych yn ôl ar gyfnod ‘mwyaf heriol’ yn hanes y mudiad