Fe fydd gwirfoddolwyr ifanc ac iach, sydd eisoes wedi cael Covid-19, yn cael eu heintio’n fwriadol gyda’r firws am yr ail waith  i weld sut mae’r system imiwnedd yn ymateb.

Mae’n rhan o waith ymchwil newydd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Rhydychen. Maen nhw eisiau gweld sut mae person sydd wedi gwella o Covid yn ymateb ar ôl cael eu heintio am yr eilwaith.

Fe fyddan nhw’n ceisio darganfod faint o ddos o’r firws sydd ei angen i ail-heintio ar ôl cael y firws yn naturiol, sut mae’r system imiwnedd yn ymateb a beth fydd hyn yn ei olygu wrth ddatblygu imiwnedd yn erbyn Covid.

Ymddiriedolaeth Wellcome sy’n ariannu’r astudiaeth ac mae disgwyl i’r broses ddechrau’r mis hwn. Fe fydd yn recriwtio pobl rhwng 18-30 oed sydd eisoes wedi cael eu heintio gan Covid-19.

Fe fyddan nhw’n cael eu heintio gyda’r firws unwaith eto mewn awyrgylch diogel ac sydd wedi’i reoli tra bod tîm o ymchwilwyr yn monitro eu hiechyd.

Mae astudiaeth debyg yn cael ei chynnal yn y Deyrnas Unedig lle mae gwirfoddolwyr yn cael eu heintio gyda’r coronafeirws er mwyn cynnal profion ar frechlynnau a thriniaethau.

Fe fydd y gwirfoddolwyr yn cael gofal mewn ysbyty am 17 diwrnod yn ystod yr astudiaeth ac yn derbyn £5,000 yr un am gymryd rhan.