Fe fydd Clwb Pêl-droed Abertawe’n adolygu eu mesurau diogelwch ar ôl i gefnogwr gael mynediad i Stadiwm Liberty yn ystod eu gêm yn erbyn Wycombe ddoe (dydd Sadwrn, Ebrill 17).

Bu’n rhaid i’r dyfarnwr Keith Stroud ddod â’r gêm i ben am gyfnod ym munudau clo’r gêm gyfartal 2-2 yn y Bencampwriaeth.

Cafodd unigolyn, oedd yn gefnogwr Wycombe, ei dywys o’r stadiwm gan swyddogion diogelwch.

“Fe wnaeth Heddlu’r De ymdrin yn gyflym â’r person dan sylw ac fe gafodd ei dywys o’r safle,” meddai llefarydd ar ran yr Elyrch.

“Tra bod hwn yn ddigwyddiad unigol, bydd y clwb yn parhau i fonitro pob agwedd ar ddiogelwch ar ddiwrnod gêm.”

Does dim hawl gan gefnogwyr fynd i gemau ar hyn o bryd o ganlyniad i gyfyngiadau Covid-19.