Mae Micheal Martin, Taoiseach neu brif weinidog Iwerddon, wedi rhybuddio am beryglon manteisio ar Brexit i achosi hollt sectyddol yn y wlad.
Wrth i’w blaid Fianna Fail gynnal digwyddiad coffa 1916 blynyddol ym mynwent Arbour Hill yn Nulyn, dywedodd fod y digwyddiadau diweddar yn y wlad yn dangos beth all ddigwydd “pan fo tensiynau sectyddol yn cael eu gadael i dyfu ac yna’n cael eu hannog gan ddigwyddiadau gwleidyddol”.
“Mae gan y golygfeydd ofnadwy ar strydoedd Belffast wreiddiau dwfn mae’n rhaid i ni eu herio – ac mae’n ddyletswydd arnom i gyd i chwarae rhan adeiladol a chymedroli.
“Rydym yn deall fod Brexit yn un o’r ffactorau yn y sefyllfa hon.”
Protocol Gogledd Iwerddon
Yn ôl Micheal Martin, roedd Protocol Gogledd Iwerddon yn “ddiweddglo teg i ymdrechion i gyfyngu ar ddinistr posib Brexit ar yr ynys hon”.
Mae’n dweud bod y sefyllfa’n “gymhleth, ond ddim yn agos at fod mor gymhleth ag y caiff ei chyflwyno”, ac y gellid datrys y sefyllfa “â ffydd a chydweithrediad”.
‘Niwed difrifol iawn’
“Mae’n bwysig dweud y gall niwed difrifol iawn ddod pe baen ni’n parhau i weld pobol yn ceisio manteisio ar Brexit fel mater i greu pwyntiau dadl neu drwy gyflwyno pob mater fel ‘swm sero’ a brwydr ennill-neu-golli,” meddai.
“Pan gaiff y dull hwn ei ddilyn mewn perthynas â’r berthynas rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd, mae’r niwed mae’n ei achosi’n un ariannol yn bennaf.
“Pan fo’n cynnwys camgyflwyno’r trefniadau ar gyfer Gogledd Iwerddon, gall y niwed fynd ymhellach o lawer.”