Mae Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, yn galw am ymchwiliad pedair gwlad i’r pandemig Covid-19.

Mae hi eisoes wedi ymrwymo i gynnal ymchwiliad ar gyfer yr Alban eleni, ond mae hi’n dweud y byddai ymchwiliad pedair gwlad hefyd yn gallu edrych ar faterion yn ymwneud â’r gwledydd unigol hefyd.

Dywedodd hi eisoes y byddai hi’n cefnogi cynnal ymchwiliad i ymateb y Deyrnas Unedig i’r pandemig, ond does dim amserlen ar hyn o bryd.

Yn ôl maniffesto’r SNP, dylid cynnal ymchwiliad cyhoeddus “yn canolbwyntio ar y person” a fyddai’n clywed gan bobol sydd wedi colli anwyliaid o ganlyniad i’r feirws.

“Rwy’ wedi ymwrymo i sefydlu ymchwiliad wedi’i arwain gan farnwr yn yr Alban i archwilio pob agwedd ar y ffordd rydyn ni wedi ymdrin â’r pandemig – gan gynnwys y sefyllfa yn ein cartrefi gofal – ac i gael dechrau ar hyn cyn diwedd y flwyddyn hon,” meddai Nicola Sturgeon.

“Bydd hyn yn digwydd yn yr Alban p’un a yw’n digwydd mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig neu beidio.

“Fodd bynnag, does dim amheuaeth y byddai’n fuddiol cael ymchwiliad a allai edrych ar draws y pedair gwlad yn ogystal â materion penodol ym mhob gwlad – byddai hyn yn helpu i roi atebion i deuluoedd, busnesau a phawb sydd wedi gwneud aberth dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Gobeithio y bydd pob llywodraeth ledled y Deyrnas Unedig yn ymuno â fi wrth ymrwymo i ymchwiliad cyhoeddus llawn yn dechrau’n ddiweddarach eleni.”