Mae angen ymchwilio i amrywiolyn Covid-19 newydd sydd â’i wreiddiau yn India, ac ystyried rhoi’r wlad ar “restr goch” Llywodraeth Prydain ar gyfer cyfyngiadau teithio, yn ôl gwyddonydd blaenllaw.

Mae Mike Tildesley, sy’n aelod o bwyllgor Spi-M sy’n rhoi tystiolaeth am y coronafeirws i bwyllgor Sage Llywodraeth Prydain, yn dweud bod angen casglu gwybodaeth am yr amrywiolyn “mor gyflym â phosib”.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Lloegr, mae 77 o achosion o’r amrywiolyn B.1.617 wedi’u cofnodi yng ngwledydd Prydain hyd yn hyn.

Mae Llywodraeth Prydain wedi amddiffyn eu penderfyniad hyd yn hyn i beidio â chyfyngu ar deithio i’r wlad, ond maen nhw’n dweud bod y sefyllfa’n cael ei “hadolygu’n gyson”.

Yn ôl George Eustice, Ysgrifennydd Amgylchedd San Steffan, does dim tystiolaeth nad yw’r brechlynnau presennol yn gwarchod pobol rhag yr amrywiolyn newydd.

“Maen nhw’n dweud wrthyf nad oes tystiolaeth ar hyn o bryd fod yr amrywiolyn penodol hwn yn gallu mynd o gwmpas y brechlyn, er enghraifft, na chwaith ei fod yn fwy trosglwyddadwy na’r gweddill,” meddai wrth raglen Sophy Ridge on Sunday.

Er gwaetha’r amrywiolyn newydd, mae e hefyd yn dweud ei bod yn “briodol” fod y prif weinidog Boris Johnson yn teithio i India ar ddiwedd y mis, er bod y daith honno eisoes wedi’i chwtogi oherwydd sefyllfa Covid-19 y wlad.

‘Rhestr goch’

Yn ôl George Eustice, fe fyddai Llywodraeth Prydain yn rhoi India ar restr goch ar gyfer teithio pe bai gwyddonwyr yn awgrymu gwneud hynny.

Byddai hynny’n golygu mai dim ond trigolion gwledydd Prydain fyddai’n gallu dychwelyd adref o’r wlad, ond byddai’n rhaid iddyn nhw dalu i aros mewn gwesty am ddeng niwrnod fel rhan o gamau cwarantîn y Llywodraeth.

“Mae nifer o brofion a gwiriadau cadarn i unrhyw un sy’n dod i mewn i’r wlad,” meddai.

“Ond cofiwch, rydyn ni’n adolygu hyn yn gyson.

“Rydyn ni’n derbyn cyngor gan yr arbenigwyr gwyddonol ar hyn.

“Os mai’r cyngor yw y dylen ni newid hynny a symud at restr goch, yna fe fydden ni [yn gwneud hynny].”