Mae pobol yn cael eu hannog i adrodd am ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ardal Merthyr Tudful.

Daw hyn wrth i Dawn Bowden, ymgeisydd Llafur yr ardal yn etholiadau’r Senedd ar Fai 1, sôn ar Twitter ei bod hi wedi derbyn nifer o gwynion yn ddiweddar.

Dywed heddlu Merthyr eu bod nhw’n cydweithio â chwmni Merthyr Self Storage yn dilyn sawl achos o feiciau oddi ar y ffordd yn cael eu gyrru ar y safle.

“Mae patrolau ar y gweill,” meddai’r heddlu.

“Os ydych chi’n cael problemau â beiciau oddi ar y ffordd, plis adroddwch amdano drwy [ffonio] 101.”

Wrth ymateb, mae Dawn Bowden wedi aildrydar neges yr heddlu gan ddweud ei bod hi “wedi derbyn sawl neges am hyn”.

“Plis nodwch bwysigrwydd riportio digwyddiadau. Ffoniwch 101,” meddai.