Mae’r Athro Richard Wyn Jones wedi beirniadu “tymor arall yn y Senedd lle mae dadleuon ynghylch ariannu myfyrwyr wedi disodli ystyriaethau ehangach o beth yn union yw pwrpas prifysgolion Cymru”.
Daw ei sylwadau mewn blog ar y wefan www.wonkhe.com lle mae’n dweud bod angen “strategaeth ac nid datganiadau bachog”.
“Er gwaethaf sawl seren lachar, roedd yn adeg annyrchafol i ymchwil ac arloesedd,” meddai ar ddechrau’r erthygl.
“Roedd hwn yn dymor arall yn y Senedd lle mae dadleuon ynghylch ariannu myfyrwyr fel pe baen nhw wedi disodli ystyriaethau ehangach o beth yn union yw pwrpas prifysgolion Cymru.
“Yn nodweddiadol, mae datganiadau gweinidogl wedi tueddi i ganolbwyntio ar gynnydd mewn myfyrwyr rhan amser neu dwf mewn niferoedd ôl-raddedig, yn aml ar y cyd â defnydd amheus o ystadegau, gan gynnwys tuedd afiach, a bod yn blwmp ac yn blaen, i symud y flwyddyn sail ar gyfer cymhariaeth mewn ffyrdd sydd (er mawr syndod!) yn galluogi llwyddiant polisi i gael ei ddatgan.
“I’r graddau bod ymchwil ac arloesedd yn ymddangos o gwbl, datganiadau bachog – a datganiadau bachog hunanfoddhaus o ran hynny – sydd fwyaf amlwg.”
Sylwadau Mark Drakeford
Mae’n tynnu sylw at sylwadau diweddar Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, yng nghyfarfod llawn y Senedd.
Fe ddywedodd ar Chwefror 23 fod prifysgolion Cymru yn gwneud yn well na’r disgwyl o ran “ansawdd ymchwil a grantiau”.
“Efallai bod hynny’n gysur i’r rheiny ohonom sy’n gweithio yn y sefydliadau hynny, ond ei ganlyniad yw cuddio darlun pryderus o danberfformio yn nhermau ariannu ymchwil ac arloesedd,” meddai’r Athro Richard Wyn Jones wedyn.
Mae’n cyfeirio at ffigurau UKRI (Ymchwil ac Arloesedd y Deyrnas Unedig) ar gyfer 2018-19, sy’n nodi bod cynghorau ymchwil ac arloesedd wedi gwario £5.4bn ledled y Deyrnas Unedig.
O’r swm hwnnw, dim ond £131m gafodd ei wario yng Nghymru, meddai, a hynny’n cyfateb i 2.4% o’r cyfanswm a £42 y pen – y ffigwr isaf o blith gwledydd a rhanbarthau’r Deyrnas Unedig.
Mae’n dweud y byddai Llywodraeth Cymru’n derbyn cyfran gwerth 5.9% o Fformiwla Barnett pe bai ariannu ymchwil wedi’i ddatganoli i Gymru.
Cronfeydd strwythurol
“Pe na bai hynny’n ddigon difrifol ynddo’i hun, mae prifysgolion Cymru ar fin colli’r hyn sydd, tan nawr, wedi bod yn un o’i ychydig fanteision cymharol mewn ariannu ymchwil ac arloesedd – mynediad parod i gronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd,” meddai.
Ers dechrau datganoli yn 1999, meddai, roedd gan Lywodraeth Cymru reolaeth helaeth dros wario arian Ewropeaidd yng Nghymru, yn enwedig cronfeydd strwythurol at ddefnydd prifysgolion Cymru “fel modd o roi hwb i’r coffrau ymchwil ac arloesedd”.
Ond mae’n dweud bod “Brexit yn golygu bod y dyddiau hynny ar ben”, a bod gweinidogion Llywodraeth Prydain “yn benderfynol o ddefnyddio cynlluniau yn eu lle i ddilyn nodau mwy tymor byr a noeth o bartisan”.
Mae’n cyfeirio at roi £4.8bn yn y Gyllideb ddiwethaf i’r Gronfa ‘Lefelu i Fyny’ oedd i’w weld yn canolbwyntio ar isadeiledd y Deyrnas Unedig, gyda £200m i beilota’r cynllun sy’n disodli cronfeydd strwythurol y Deyrnas Unedig gyfan.
“Yn ogystal, roedd yr ieithwedd a gafodd ei defnyddio i ddisgrifio’r cynllun peilot hwnnw’n awgrymu llawer mwy o ffocws ar brosiectau lleol a llai, efalli, o’r dull “rhanbarthol” sydd wedi galluogi prifysgolion Cymru i ddefnyddio cronfeydd strwythurol ar gyfer prosiectau cyfalaf.
“O hyn ymlaen, byddai’n well i unrhyw brifysgol i’r de o’r M4 sy’n honni bod ei lab newydd o fudd i Ferthyr Tudful yn dechrau ei adeiladu yno (neu o leiaf fod â sêl bendith gan y cyngor).
“Byddai’n rhaid hefyd ymdrin â rhai o’r gwleidydda pork-barrel mwyaf digywilydd y gwelodd y Deyrnas Unedig ers tro byd.”
Ariannu prifysgolion Cymru
Wrth drafod ariannu prifysgolion Cymru, dywed fod prifysgolion Cymru’n derbyn lefel is o arian y pen ar gyfer addysg oherwydd fod ffioedd dysgu’n is – £9,000 o gymharu â £9,250 yn Lloegr.
Ac mae’n dweud bod penderfyniad Llywodraeth Prydain i ddiwygio T-grant Lloegr am symud arian tuag at brifysgolion STEM a’r rheiny lle mae ymchwil gryfaf, ac eithrio’r rheiny yn Llundain.
“Dyma’r math o newid a fydd yn bwrw’r sefydliad cyffredin ond a all fod o fudd i brifysgolion Grŵp Russell Lloegr y tu allan i brifddinas Lloegr,” meddai.
“Mae prifysgolion Cymru sy’n frith o ymchwil, felly, yn ceisio parhau’n gystadleuol yn erbyn sefydliadau sydd eisoes yn elwa o incwm uwch y pen ac y bydd eu manteision yn parhau i gynyddu.
“Mae hynny’ gyson â’r pwysau dwbl sydd yn aml yn cael ei deimlo gan y rhai sydd â’r cyfrifoldeb o gadw’r cofnodion ym mhrifysgolion Cymru: pensiynau a graddfeydd cyflog yn gyfrifoldeb ar lefel y Deyrnas Unedig, a’r incwm wedi’i osod ar lefel Cymru.
“Pe bai’r ddwy ochr yn rhoi’r gorau i siarad â’i gilydd, yna mae’n eithaf amlwg fod gennych chi broblem.”
Beth ddylai Cymru ei wneud?
Yn ôl yr Athro Richard Wyn Jones, fe fu gan Lywodraeth Cymru ateb i’r broblem ers 2018, pan gyhoeddodd yr Athro Graeme Reid ganlyniadau ei arolwg annibynnol ar sut mae Llywodraeth Cymru’n cefnogi ymchwil ac arloesedd.
Gan roi ystyriaeth i’r posibilrwydd y byddai Llywodraeth Prydain yn ceisio adennill pwerau datganoledig trwy broses Brexit, cyflwynodd yr adolygiad dri argymhelliad ariannol:
- £71m y flwyddyn ar gyfer ymchwil o safon, wedi’i gadw yn nhermau real
- £35m y flwyddyn drwy Gronfa Dewi Sant, fersiwn Gymreig o’r Gronfa Arloesedd Addysg Uwch (neu £100m y flwyddyn pe bai Cymru’n cael pwerau dros gronfeydd sy’n disodli arian Ewropeaidd)
- £30m drwy Gronfa Dyfodol Cymru i wobrwyo sefydliadau sy’n dod ag arian i mewn ar lefel y Deyrnas Unedig.
Mae’n dweud bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhellion ond heb weithredu arnyn nhw’n llawn.
Yn lle’r £35m drwy Gronfa Dewi Sant, mae gan Gymru Gronfa Arloesedd Ymchwil Cymru, ond mae’n werth £15m ac nid £35m, ac mae’n dweud bod Cronfa Dyfodol Cymru “fel pe bai wedi diflannu o’r golwg”.
“Mae cynnydd yn dirywio ac mae ymateb Llywodraeth Cymru’n destun pryder,” meddai wedyn.
Ac mae’n dweud bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud “camgymeriad amlwg” wrth awgrymu bod argymhellion Reid “yn ddibynnol ar fod gan Gymru reolaeth dros gronfeydd yn disodli arian yr Undeb Ewropeaidd”.
“Er mwyn cymylu, awgrymodd yr Ysgrifennydd Addysg [Kirsty Williams] fod Cronfa Arloesedd Ymchwil Cymru yn cyflawni tri o argymhellion Reid,” meddai.
“Mae yna batrwm parhaus bellach fod y Llywodraeth Cymru ddiwethaf yn symud oddi wrth gasgliadau ac argymhellion ei adolygiad ei hun, tra eu bod nhw hefyd yn osgoi’r cwestiynau anodd am yr hyn mae am ei gael o ymchwil ac arloesedd.
“Yn y cyfamser, mae prifysgolion Cymru’n cael eu gadael i gystadlu am bot o arian UKRI sy’n lleihau yn erbyn sefydliadau Seisnig sy’n cael eu cyllido’n well.”
Beth am y dyfodol?
Wrth ystyried sut allai’r sefyllfa wella yn y Senedd nesaf, mae’n dweud ei bod yn “rhy gynnar” i ddweud beth fydd polisïau’r pleidiau ar ôl Mai 6.
“Ond dylai un peth fod yn glir i bawb: nid yn unig mae gwneud yn well na’r disgwyl yn anghynaladwy yn y tymor hir, ond mae e i’r gwrthwyneb i strategaeth,” meddai.
“Tra bod rhywun ysgafn yn gallu taro sawl ergyd dda, yn y pen draw bydd pwysau trwm yn eu rhoi nhw ar wastad eu cefn.
“Beth bynnag fo’i gwneuthuriad gwleidyddol, mae angen i Lywodraeth nesaf Cymru benderfynu ai dyna’r tynged y mae ei eisau ar gyfer ymchwilwyr y wlad.”