Mae Neil McEvoy, arweinydd plaid Propel, yn dweud bod angen “adeiladu hyder” ymhlith pobol Cymru y gall y wlad fynd yn annibynnol a rheoli ei materion ei hun.

Fe fu’n siarad â rhaglen Sunday Politics Wales y BBC, wrth i’w blaid, Propel, baratoi i frwydro etholiadau’r Senedd mewn 11 o etholaethau a phob rhanbarth ar Fai 6.

Er ei fod yn dweud nad oes gan Gymru “stori wych hyd yn hyn” o ran datganoli, mae’n dweud bod angen i wleidyddion sicrhau bod y Senedd “yn llwyddiant i bobol Cymru yn hytrach nag ar gyfer buddiannau personol”.

Daw hyn wrth i’r blaid alw am derfyn ar gyfyngiadau’r coronafeirws ar unwaith, gyda Neil McEvoy o’r farn eu bod nhw’n gwneud “mwy o ddrwg nag o les”.

“Pe baen ni wedi rhoi cynnig ar gyfnod clo llym dros ben ar y dechrau’n deg, mae’n bosib y byddai hynny wedi llwyddo,” meddai.

“Ond rydyn ni wedi cael y gwaethaf o ddau fyd, ac mae gyda chi bobol sy’n mynd drwy uffern ar hyn o bryd.

‘Cytundeb gyda Chymru’

Fel rhan o “gytundeb gyda Chymru” (maniffesto Propel), mae’r blaid yn addo sefydlu cwmni ynni cenedlaethol yng Nghymru.

Maen nhw am ei sefydlu “ar gyfer echdynnu confensiynol o storfeydd nwy Cymru y gwyddys amdanyn nhw mewn hen safleoedd glo er mwyn disodli nwy tramor sy’n cael ei fewnforio”.

Dywed y blaid y bydda’r biliynau o bunnoedd o refeniw sy’n deillio o hynny’n cael eu defnyddio i sefydlu cronfa gyfoeth sofran er mwyn ennill annibyniaeth drwy fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy.

Fe fu Neil McEvoy yn ymhelaethu ar y cynllun hwnnw wrth siarad â Sunday Politics Wales.

“Byddai’r arian, wrth gwrs, yn creu swyddi, yn dod â llewyrch yn ôl i rai cymunedau’r cymoedd sydd wedi’u dinistrio ond yn fwy na hynny, gallai ariannu chwyldro cynhyrchu ynni drwy fod yn 100% adnewyddadwy yn y dyfodol.”

Ymateb

Yn ôl Cyfeillion y Ddaear Cymru, byddai echdynnu methan glofaol yn “ffynhonnell newydd beryglus o allyriadau nwyon tŷ gwydr ac yn cynyddu effeithiau hinsawdd Cymru – gyda methan dros 20 gwaith yn fwy peryglus na charbon deuocsid hyd yn oed”.

Ond dywed Neil McEvoy nad oes “cynlluniau llywodraethol i leihau’r ddibyniaeth ar nwy, felly bydd olion carbon mwy wrth fewnforio nwy sy’n cael ei gynhyrchu mewn llefydd fel Qatar”.

“Dydy hynny jyst ddim yn gwneud synnwyr economaidd,” meddai wedyn.

“Dydy hi ddim yn gwneud synnwyr amgylcheddol.”