Mae Andrew RT Davies yn dweud ei fod e eisiau dilyn gweddill y Deyrnas Unedig wrth lacio cyfyngiadau’r coronafeirws.

Wrth siarad ar raglen Andrew Marr fore heddiw (dydd Sul, Ebrill 18), dywedodd y byddai’n barod i godi’r holl gyfyngiadau ar Fehefin 21 pe bai’r Ceidwadwyr yn dod i rym ar ôl etholiadau’r Senedd ar Fai 6.

Ond mae’n dweud y byddai hynny’n digwydd dim ond “os yw’r wyddoniaeth” yn caniatáu ac yn dangos mai dyna’r peth gorau i’w wneud.

“Yn absenoldeb map ffordd Llywodraeth Cymru sy’n drefnus ac yn gweithio i bobol Cymru lle bynnag rydych chi’n byw, rydyn ni’n credu ei bod yn synhwyrol cysoni’r blaenoriaethau hynny â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, lle mae’r wyddoniaeth yn gwneud synnwyr,” meddai.

“Os yw hynny’n wir ar Fehefin 21, dyna fydden ni’n hoffi ei wneud.”

Lletygarwch

Daw ei sylwadau wrth i George Eustice, Ysgrifennydd Amgylchedd San Steffan, ddweud ei bod hi’n “rhy gynnar i ddweud” a fydd yr holl fusnesau lletygarwch yn cael agor eto ar Fai 17.

“Ond dw i’n credu ein bod ni ar y trywydd iawn o ran bod ar y trywydd iawn o ran gweithredu’r rhaglen frechu,” meddai.

“Bellach, rydyn ni wedi brechu pawb dros 50 oed a’r wythnos hon, rydyn ni’n cynnig brechlynnau heyfd i bawb o dan 50 oed, gan ddechrau gyda’r rhai 45-49 oed – felly rydyn ni ar y trywydd iawn o ran hynny.

“Ond rydyn ni’n ofalus fan hyn i raddau.

“Felly er ein bod ni wedi brechu 60% o’r boblogaeth o oedolion, rhaid i ni gadw llygad barcud ar yr amrwyiolion hynny sy’n destun pryder.

“Hefyd, gweld beth yw effaith y llacio rydyn ni newydd ei wneud, y lleihau rydyn ni newydd ei wneud, cyn symud ymlaen i’r cam nesaf.”