Mae cyn-Arlywydd De Affrica Jacob Zuma wedi ei gael yn euog o ddirmyg llys a’i ddedfrydu i 15 mis yn y carchar am herio gorchymyn llys i ymddangos gerbron ymchwiliad.
Roedd yn ymchwiliad i honiadau o lygredd yn ystod ei gyfnod yn Arlywydd rhwng 2009 a 2018.
Mae Jacob Zuma wedi’i orchymyn i fynd o fewn pum niwrnod i orsaf heddlu yn ei dref enedigol, Nkandla yn dalaith KwaZulu-Natal neu yn Johannesburg.
Dyma’r tro cyntaf yn hanes De Affrica i gyn-Arlywydd gael ei ddedfrydu i gyfnod o garchar.
Dyfarnodd llys apex y wlad, y Llys Cyfansoddiadol heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 29) fod Jacob Zuma wedi herio gorchymyn gan lys uchaf y wlad drwy wrthod cydweithredu â chomisiynu’r ymchwiliad, sy’n cael ei gadeirio gan y dirprwy bennaeth cyfiawnder, Raymond Zondo.