Bydd Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cymwysterau nyrsio am y tro cyntaf, yn dilyn penderfyniad i gymeradwyo cynlluniau i fuddsoddi mewn gofal iechyd.

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi rhoi cytundeb deng mlynedd i’r brifysgol hyfforddi nyrsys oedolion a nyrsys iechyd meddwl.

Bydd y myfyrwyr cyntaf yn dechrau astudio’r cyrsiau yn Aberystwyth fis Medi y flwyddyn nesaf, a bydd modd gwneud cais ar gyfer lle ar y cyrsiau gradd o hydref eleni ymlaen.

Caiff y myfyrwyr sy’n astudio ar gyfer y graddau newydd y cyfle i dderbyn hyd at hanner eu haddysg drwy’r Gymraeg.

Mae’r penderfyniad wedi ei groesawu’n wresog fel hwb mawr i’r gwasanaeth iechyd, yn enwedig yn y Canolbarth, yn ôl Prifysgol Aberystwyth.

“Cefnogi anghenion cymunedol”

“Mae hyn yn newyddion ardderchog a chyffrous i bawb yma yn Aberystwyth,” meddai’r Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth.

“Diolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o ddatblygu ein cynlluniau i ddarparu addysg nyrsio yma.

“Rydym yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth gyson ein partneriaid, gan gynnwys y byrddau iechyd lleol a Chyngor Sir Ceredigion; hebddynt, ni fyddai’r datblygiad cyffrous hwn yn bosibl.

“Mae cefnogi anghenion cymunedol, mewn cydweithrediad agos â’n partneriaid, yn ganolog i’n cenhadaeth sifig, a bydd sefydlu addysg nyrsio yma yn rhan bwysig o hynny.

“Bydd yn fuddiol o ran recriwtio a chadw nyrsys, yn ogystal â bod â’r potensial i ysbrydoli modelau newydd o ddarparu gofal iechyd a fydd o fudd i bawb.

“Bydd ein cynlluniau hefyd yn gwneud cyfraniad pwysig at wella darpariaeth iechyd meddwl a chyfrwng Cymraeg yn lleol a thu hwnt.

“Yn ystod y pandemig, mae gwaith ein nyrsys, a’n gweithwyr iechyd a gofal eraill yn ystod y cyfnod cythryblus hwn, wedi bod yn amhrisiadwy.

“Mae’n anrhydedd fawr fod Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi ymddiried a buddsoddi ynddon ni, er mwyn i ni wireddu ein cynlluniau cyffrous i addysgu nyrsys yma.

“Ein huchelgais yw chwarae rôl hyd yn oed yn fwy mewn hyfforddi gweithwyr gofal iechyd dros y blynyddoedd i ddod.

“O ystyried profiadau pawb yn ystod y pandemig, onid oes adeg bwysicach nag yn awr i flaenoriaethu buddsoddi yn y genhedlaeth nesaf o bobl ifanc ddawnus a fydd yn gyfrifol am les pob un ohonom.”

“Arfogi ein myfyrwyr”

“Mae hwn wedi bod yn ddarn enfawr o waith sy’n dyst i bwysigrwydd addysg gofal iechyd o ansawdd uchel ac i ofal cleifion yng Nghymru,” yn ôl Chris Jones, cadeirydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

“Bydd y trefniadau ar gyfer ehangu mynediad a gwreiddio hyfforddiant yn ein cymunedau yn arfogi ein myfyrwyr er mwyn gwasanaethu anghenion y boblogaeth yn y dyfodol.

“Diolch i bawb sydd wedi bod yn ymwneud â hyn gan gynnwys rhanddeiliaid sydd wedi cynorthwyo gyda llunio’r cytundebau ac, yn ei dro, dyfodol gofal iechyd.

“Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda phrifysgolion a byrddau iechyd er mwyn gwireddu’r weledigaeth ac i arfogi myfyrwyr gyda’r sgiliau, gwybodaeth a phrofiad er mwyn cychwyn ar yrfaoedd llwyddiannus a boddhaus.”