Mae Sajid Javid, Ysgrifennydd Iechyd newydd y Deyrnas Unedig, wedi condemnio’r fideo o brif swyddog meddygol Lloegr yn cael ei boenydio mewn parc.

Dywedodd fod y fideo o Chris Whitty’n cael ei boenydio gan ddau ddyn yn “ofnadwy ac yn gwbl annerbyniol”, ac nad yw ymddygiad o’r fath yn cael ei oddef.

Mae Heddlu’r Met yn ymchwilio ar ôl i’r fideo 20 eiliad, a gafodd ei ffilmio ym Mharc St James yn Llundain mae’n debyg, gael ei rhannu ar-lein.

Dangosa’r fideo ddau ddyn yn gwenu ac yn gafael yn yr Athro Chris Whitty, wrth iddyn nhw weiddi “Oi oi” a dweud “Un llun plis?”

Mae Chris Whitty’n trio cerdded i ffwrdd, ac mae’r dynion yn gafael ynddo fo eto.

Gyda faniau plismyn i’w gweld yng nghefndir y fideo, mae yna lais yn dweud “Gadwch lonydd i’r gŵr” cyn i’r fideo orffen.

“Cwbl annerbyniol”

“Dw i wedi gweld y fideo o’r Prif Swyddogol Meddygol yn cael ei aflonyddu. Mae o’n ofnadwy, ac yn gwbl annerbyniol. Mae’r Prif Swyddogol Meddygol yn gweithio’n ddiflino ar ran y wlad,” meddai Sajid Javid ar Twitter.

“Ni fyddwn ni’n goddef y math yma o ymddygiad tuag at ein gweision cyhoeddus. Dylai’r dynion sy’n ymddwyn yn y ffordd warthus yma fod â chywilydd.”

“Rydyn ni’n ymwybodol o’r fideo sy’n cael ei rhannu ar-lein yn dangos digwyddiad ym Mharc St James. Fe wnaeth swyddogion siarad â’r rhai oedd ynghlwm â’r mater ar y pryd, a chafodd eu manylion eu cymryd,” meddai’r heddlu.

“Rydyn ni mewn cysylltiad â’r dioddefwr, ac rydyn ni’n parhau i ymchwilio i’r amgylchiadau.”

Mae nifer o Aelodau Seneddol wedi condemnio’r ymddygiad, gyda Gweinidog Brechlynnau’r Deyrnas Uned yn dweud fod “rhaid dod o hyd i’r rhai oedd yn gyfrifol a’u cyhuddo”.

“Ymddygiad erchyll”

“Mae hyn yn ymddygiad erchyll,” meddai Keir Starmer ar Twitter wrth ymateb i’r digwyddiad.

“Mae Chris Whitty yn was cyhoeddus ymrwymedig sydd wedi gweithio’n ddiflino i helpu i’n cael ni drwy’r argyfwng.

“Mae’r heddlu’n iawn i ymchwilio i’r poenydio hyn.”

Bodau dynol nid dolis

Dywedodd yr Aelod Seneddol Llafur, Jess Phillips, eu bod nhw wedi gwneud i Chris Whitty deimlo’n “ofnadwy ac anghyfforddus”, ac fe wnaeth hi atgoffa pobol fod ffigurau cyhoeddus “yn fodau dynol”.

“Hyd yn oed os ydych chi’n gweld e fel rhywbeth di-drais, mae’n glir ei fod e’n teimlo’n ofnadwy ac yn anghyfforddus, a’i fod e wedi gwrthsefyll.

“Dim dolis yw ffigurau cyhoeddus, maen nhw’n fodau dynol, mae’n syndod pa mor hawdd mae hynny’n cael ei anghofio.”

Nid dyma’r tro cyntaf i Chris Whitty orfod dioddef cael ei boenydio yn gyhoeddus, yn gynharach y mis hwn cafodd ei stopio ar y stryd yn Rhydychen gan ddyn yn ei gyhuddo o ddweud celwydd wrth y cyhoedd ynghylch Covid-19.

Ym mis Chwefror aeth dyn ato, gan ymddwyn yn ymosodol, y tu allan i San Steffan, ond dywedodd Chris Whitty “nad oedd o wedi meddwl dim byd o’r peth” bryd hynny.

“Bachgen ifanc yn dangos ei hun bob hyn a hyn, mae’n digwydd yn achlysurol.”