Dyma’r wythnos gyntaf ers dechrau’r pandemig i Gymru gofnodi bod dim marwolaethau’n ymwneud a Covid-19, yn ôl y ffigurau diweddaraf.

Doedd dim o’r 573 o farwolaethau gafodd eu cofnodi yng Nghymru yn yr wythnos hyd at 18 Mehefin yn crybwyll Covid 19 ar y dystysgrif marwolaeth, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Y tro diwethaf i hyn ddigwydd oedd yn yr wythnos hyd at 13 Mawrth 2020. Yr wythnos ganlynol hyd at 20 Mawrth, fe fu dwy farwolaeth oherwydd Covid-19 yng Nghymru.

Ers hynny, mae marwolaeth sy’n gysylltiedig â Covid-19 wedi cael eu cofnodi yng Nghymru bob wythnos.

Ond mae’r darlun yn wahanol yn Lloegr lle cafodd 102 o farwolaethau eu cofnodi lle’r oedd Covid-19 yn cael ei nodi ar dystysgrif marwolaeth yn yr wythnos hyd at 18 Mehefin, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae hyn yn gynnydd o 21% ers yr wythnos flaenorol. Dyma’r tro cyntaf i nifer y marwolaethau fod yn uwch na 100 ers dechrau wythnos 21 Mai.

Roedd 21 o’r marwolaethau mewn cartrefi gofal hyd at 18 Mehefin – cynnydd o 14 ers yr wythnos flaenorol.

Mae Covid 19 wedi cyfrannu at farwolaeth cyfanswm o 42,546 o breswylwyr cartrefi gofal yng Nghymru a Lloegr.

Yn y Deyrnas Unedig mae cyfanswm o 153,767 o farwolaethau wedi’u cofnodi lle’r oedd Covid-19 yn cael ei nodi ar dystysgrif marwolaeth.