Parhau mae’r chwilio yn Miami, Fflorida am oroeswyr ar ôl i floc o fflatiau ddymchwel ddydd Iau diwethaf.

Roedd timau achub wedi dod o hyd i ddau gorff arall ddoe (Dydd Llun, Mehefin 28) gan ddod a nifer y meirw i 11.

Nid oes unrhyw un wedi cael eu darganfod yn fyw ers rhai oriau wedi’r digwyddiad ddydd Iau.

Mae 150 o bobl yn dal ar goll wedi i’r fflatiau 12 llawr ddymchwel yng nghymuned Surfside, ger Miami.

Mae teuluoedd yn parhau i ddod i’r safle i wylio’r timau achub wrth eu gwaith, sy’n cynnwys diffoddwyr tan, cwn, ac arbenigwyr sy’n defnyddio teclynnau radar a sonar.

Fe ddymchwelodd y bloc o fflatiau ddyddiau’n unig cyn i’r perchnogion orfod gwneud taliadau o fwy na £6.48m ar gyfer atgyweirio’r adeilad. Roedd adroddiad wedi argymell bod angen gwneud atgyweiriadau dair blynedd ynghynt gan rybuddio am “ddifrod strwythurol sylweddol”.

Mae timau o wyddonwyr ac arbenigwyr yn cynnal ymchwiliad cychwynnol ar y safle i benderfynu a oes angen cynnal ymchwiliad llawn i achos y digwyddiad.