Mae prisiau tai yng Nghymru wedi codi 13.4% yn y flwyddyn ers mis Mehefin 2020, y twf blynyddol mwyaf mewn blwyddyn ers 2005.
Ar gyfartaledd, roedd tŷ yn costio £183,728 yng Nghymru yn ystod ail chwarter 2021.
Oni bai am Ogledd Iwerddon, lle bu cynnydd o 14%, Cymru welodd y cynnydd blynyddol mwyaf mewn prisiau tai.
Ar draws y Deyrnas Unedig, £245,432 oedd y pris cyfartalog am dŷ, meddai Cymdeithas Adeiladu Nationwide, gyda’r cynnydd cyfartalog ar draws y pedair gwlad yn 13.4% hefyd – sef y cynnydd mwyaf ers Tachwedd 2004.
Bu twf o 0.7% mewn prisiau ers mis Mai, yn dilyn cynnydd o 1.7% rhwng Ebrill a Mai.
“Anoddach fyth” prynu am y tro cyntaf
Yn ôl prif economegydd Nationwide, mae prisiau tai’n agos at gyrraedd record mewn cymhareb ag incymau cyfartalog.
“Mae hyn yn bwysig oherwydd mae’n ei gwneud hi’n anoddach fyth i bobol sydd eisiau prynu am y tro cyntaf gynilo ar gyfer blaendal,” meddai Robert Gardner.
“Er enghraifft, mae blaendal o 10% dros 50% o incwm arferol rhywun sy’n prynu am y tro cyntaf.
“Byddai’n cymryd pum mlynedd i brynwyr posib sy’n ennill y cyflog cyfartalog ac yn cynilo 15% o’u tâl allu arbed i gael blaendal o 10%.”
Disgwyl llai o alw
Bydd egwyl ar dreth stamp tai yn dechrau ym mis Gorffennaf, cyn dychwelyd at lefelau arferol erbyn yr hydref.
“Bydd pethau’n lliniaru am gyfnod ar ôl i’r egwyl mewn treth stamp ddod i ben ddiwedd mis Medi, yn anochel, o ystyried y cymhelliad cryf sydd i bobol brynu’n gynharach er mwyn osgoi treth ychwanegol,” meddai Richard Gardner.
“Mae’r galw gwaelodol yn debygol o liniaru ddiwedd y flwyddyn os yw diweithdra’n cynyddu, fel mae nifer o ddadansoddwyr yn ei ddisgwyl, wrth i raglenni cymorth y Llywodraeth ddod i ben.
“Ond mae hyn yn bell o fod yn sicrwydd. Hyd yn oed os yw’r farchnad lafur yn gwanhau, mae yna le i’r newidiad yn y tai mae pobol am eu prynu o ganlyniad i’r pandemig barhau i gefnogi gweithgarwch am beth amser eto.”