“Dim problem tai sydd gennym ni, ond problem cartrefi,” yn ôl y Cynghorydd Gruffydd Williams oedd wedi cyflwyno cynnig mewn cyfarfod arbennig heddiw (dydd Llun, Mehefin 28) yn galw ar Gyngor Gwynedd i adolygu eu Cynllun Datblygu Lleol.
Cafodd cynnig Gruffydd Williams, sy’n cynrychioli ward Nefyn, ei basio’n unfrydol.
Mae’r cynnig, sy’n golygu bod polisïau datblygu a chynllunio tai’r sir am gael eu hadolygu, wedi derbyn cefnogaeth gan sawl mudiad gwrth-niwclear, gan fod cynlluniau’r Cyngor i adeiladu tai newydd yn seiliedig ar y rhagdybiaeth fod Wylfa B am gael ei adeiladu.
Byddai’r cynlluniau’n golygu adeiladu dros 3,000 o dai newydd yng Ngwynedd, gyda nifer tebyg ym Môn dan Gynllun Datblygu Lleol Cyngor Ynys Môn.
Yn ôl y mudiad gwrth-niwclear PAWB, mae’r nifer yn seiliedig ar sail “hollol wallus” gan fod Wylfa B “wedi’i ddileu i bob pwrpas”.
Gan barhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru i wneud newidiadau i’r Ddeddf Cynllunio, dywed Gruffydd Williams ei bod hi’n bwysig edrych ar bolisïau’r sir hefyd a sicrhau fod modd gwneud newidiadau “ar frys”.
“Cau’r drws cefn”
“Roedd yna sawl rheswm, yn gyntaf un rydyn ni wedi bod yn erfyn ar Lywodraeth Cymru i newid y Deddfau Cynllunio,” meddai Gruffydd Williams, sy’n aelod annibynnol ar Gyngor Gwynedd, wrth siarad â golwg360.
“Un o’r cynigion wnes i roi gerbron Cyngor Gwynedd flwyddyn yn ôl oedd ein bod ni’n gofyn i Lywodraeth Cymru newid y Ddeddf Cynllunio fel bod rheidrwydd ar unrhyw berson sydd isio prynu tŷ annedd a’i drosi o’n dŷ haf, bod nhw’n gorfod cael cais cynllunio i wneud hynny.
“A’n bod ni’n gosod trothwyon mewn unrhyw ardal ar gyfer faint ydi gormodedd.
“Oherwydd ein bod ni wedi bod yn pwyso ar Lywodraeth Cymru, roedd o’n fater wedyn o edrych ar y polisïau sydd gennym ni’n hunain yng Nghyngor Gwynedd.
“Dydyn ni ddim haws â bod yn erfyn ar y Llywodraeth i helpu ni i gau’r drws ffrynt, tra mae’r drws cefn yn llydan agored.
“Wedyn mae gennym ni gymaint o bolisïau annelwig sy’n agored i ddisgresiwn y swyddogion fel eu bod nhw’n gallu rhoi argymelliadau gerbron sydd ddim yn gwneud synnwyr o gwbl, yn enwedig yng ngolwg y pandemig, Brexit, dim Wylfa B.
“Felly mae gennych chi lith o bolisïau sydd angen eu hailnewid.”
‘Dogfen sydd wedi marw ar ei thraed’
Pan gafodd y Cynllun Datblygu gwreiddiol ei basio yn 2017, roedd modd newid polisïau o fewn pedair blynedd os nad oedd yn gweithio ar gyfer dibenion lleol.
Bydd pedair blynedd wedi mynd heibio ym mis Gorffennaf, meddai Gruffydd Williams, ond maen nhw wedi cael ar ddeall y gallai hi gymryd hyd at dair blynedd a hanner i newid y polisïau.
“Mae o jyst yn annerbyniol,” meddai.
“Maen nhw’n trio dweud ei bod hi’n ddogfen fyw, wel, sut uffern mae o’n cymryd tair blynedd a hanner i newid rhywbeth mewn dogfen fyw? Dogfen farw ydi hi, mae hi wedi marw ar ei thraed.
“Be rydyn ni’n ei obeithio rŵan, a wnes i ofyn fel cynffon i’r cynllun ro’n i wedi’i roi gerbron heddiw, ein bod ni’n gofyn i Mark Drakeford am y pwerau i ni gael cyflymu’r broses i newid y polisïau yn y Cynllun Unedol.
“Neu fel arall, fydd yna ddim diben iddi. Sbïa’r difrod sydd wedi digwydd yn y flwyddyn ddiwethaf yma, wel, fedri di fentro faint o ddifrod fydd yma mewn tair blynedd a hanner ychwanegol.”
‘Y boneddigeiddio yma ydi’r broblem’
“Y camau nesaf rŵan yw ein bod ni’n mynd i orfod edrych ar y polisïau sydd gennym ni, y rhai rydyn ni angen eu newid – ac mae yna lot ohonyn nhw – ac un ohonyn nhw ydi’r boneddigeiddio yma, a’r ffordd mae’r polisïau yn caniatáu disgresiwn y swyddogion ar be sy’n dderbyniol, er enghraifft mewn ardal o harddwch naturiol, a be’ sydd ddim,” meddai wedyn.
“Mae isio tynhau’r polisïau yma, fel ei bod hi’n fwy eglur i’r ochr datblygwyr ac i’r ochr pobol gyffredin be’ sy’n mynd i fod yn dderbyniol a be’ sydd ddim.
“Dydyn ni ddim isio i bob man droi allan fel Abersoch, lle mae pobol yn dod mewn, talu miliwn am dŷ, gwario miliwn arno fo, a rhoi o ar y farchnad am bedair [miliwn].
“Y boneddigeiddio yma ydi’r broblem, mae’n rhaid i ni roi stop arno fo.
“Fedri di adio add-on ar add-on fan hyn, mae’r bwthyn bach yn troi’n balas, dydi?”
“Methu buildio’n hunain allan o’r llanast”
“Mae gen ti hefyd, sy’n llawn cyn bwysiced os nad pwysicach, yr holl niferoedd o dai sydd wedi cael eu rhoi mewn [yn y cynllun] achos eu bod nhw’n meddwl fod Wylfa B yn dod,” meddai Gruffydd Williams wedyn, wrth gyfeirio at y 3,367 o dai ychwanegol sydd i fod i’w hadeiladu fel rhan o’r Cynllun Datblygu gwreiddiol.
“Be sy’n mynd i ddigwydd i’r niferoedd yna rŵan? Ydan ni’n mynd i’w rhoi nhw allan ar y farchnad agored, a bod pobol allanol yn prynu’r rhain i gyd i’w gwneud nhw’n dai haf?
“Does dim angen nhw. Dydan ni ddim yn mynd i allu buildio’n hunain allan o’r llanast yma.
“Dim problem tai sydd gennym ni, mae yna ddigon o dai, problem cartrefi sydd gennym ni, a phrinder cartrefi.
“Ethos gwreiddiol grŵp Cynefin, sef hen Dai Eryri, oedd eu bod nhw’n prynu tai oedd yn y stoc dai yn barod yn lle bod yn ein pentrefi a’n trefi ni’n cael eu Seisnigeiddio.
“Wedyn ddôth y stadau o dai fforddiadwy ar gyrion pentrefi, bellach mae’r Cymry jyst yn byw mewn ardaloedd ar ochr y trefi yma.”
Newid y Ddeddf Cynllunio
Wrth gyfeirio at benderfyniad Cyngor Gwynedd i godi’r premiwm i 100% ar y Dreth Gyngor ar gyfer tai haf, dywed Gruffydd Williams mai’r syniad oedd defnyddio’r arfau gan Lywodraeth Cymru, er ei bod hi’n “amlwg fod o ddim am weithio”.
“Os oes gen ti £250,000 a rhagor i’w roi am dŷ haf, dydi codi mil ychwanegol mewn treth cyngor ddim yn mynd i stopio chdi rhag prynu fo, nadi?” meddai Gruffydd Williams, gan ddweud na chafodd y penderfyniad ei wneud i “sbeitio” neb.
“Ond roedd rhaid i ni ddangos i Mark Drakeford ein bod ni wedi defnyddio’r tools yma, a bod o dal ddim yn gweithio, neu fel arall fysan ni ddim yn gallu dwyn pwysau arnyn nhw i newid y Ddeddf Cynllunio.
“A honno ydi’r Jewel in the Crown os lici di, ein bod ni’n edrych ar dai haf yng nghyd-destun bod rhaid iddyn nhw gael hawl cynllunio i drosi tŷ annedd yn dŷ haf, a hwnna rydan ni’n chwilio amdano.
“Os ydan ni’n gwneud hynny, fydd gennym ni ddwy farchnad. Os ti’n defnyddio trothwyon wedyn, dim mwy na 5% yn Nefyn, dyweda, mae gen ti 5% sydd am fynd yn dai haf, dydyn? A weli di byth mohonyn nhw eto.
“Ac mae pawb arall yn cael cystadlu am y 95% sy’n weddill, sy’n mynd i gadw prisiau ar gyfer pris y farchnad leol.
“Mae o’n gweithio’n iawn yn Jersey a Guernsey, does gennym ni ddim dewis ond ei wneud o yn fan’ma neu fyddan ni i gyd wedi mynd fel Abersoch lle [mae] gen ti 48% o’r stoc dai yn dai haf, a fedrai neb lleol fforddio byw yno.
“Mae o am ddigwydd rŵan ar hyd Pen Llŷn, fel cau tiroedd comin mewn ffordd, cau pobol leol allan, cael gwared ar bobol o’u cynefinoedd.”
“Cwbl anaddas” – PAWB
“Roedden ni’n dadlau, wrth gwrs, fod Cynllun Datblygu Lleol Ynys Môn a Gwynedd, pan oedd y ddau Gyngor yn mynd drwy’r broses o’i fabwysiadu fo, fod e’n gwbl anaddas, bod y ffigurau ar gyfer y niferoedd o dai oedd y ddau gyngor yn meddwl fydd eu hangen yn y ddwy sir… bod hynny’n seiliedig ar brosiect Wylfa B,” meddai Dylan Morgan ar ran PAWB, mudiad Pobol Atal Wylfa B, wrth golwg360.
“Wrth gwrs, fe wnaethom ni rybuddio o’r cychwyn, o 2006 pan oedd [cyn-brif weinidog Prydain] Tony Blair yn mynnu cael niwclear yn ôl i’r darlun ar gyfer cynhyrchu trydan, bod dyfodol ynni niwclear yn simsan iawn.
“Mae’n ddiwydiant sy’n hercian at ebargofiant yn fyd-eang, ac ro’n i’n gweld bai mawr ar wleidyddion ar bob lefel yng Nghymru – o gynrychiolwyr yn Llundain, yn y Senedd yng Nghaerdydd ac yn y Cynghorau sir – eu bod nhw’n barod i dderbyn ynni niwclear.
“Yr atyniad mawr yn fan hyn oedd y byddai’n creu swyddi, ond y realiti oedd bod economeg niwclear a’r holl broblemau sydd ynghlwm â’r diwydiant fel y gwastraff, a bod dim ateb gan y wladwriaeth mewn gwirionedd beth i wneud gyda’r holl wastraff hwnnw… roedd e’n gwbl amlwg mai’r unig ffordd y byddai’r gorsafoedd yma’n gallu cael eu codi fyddai drwy gymorthdal cyhoeddus enfawr.
“Mi gawson ni’n profi’n gwbl gywir.
“Doedd Hitachi ddim yn fodlon buddsoddi eu harian eu hunain yn eu technoleg niwclear eu hunain, roedden nhw’n disgwyl i bobol eraill fuddsoddi ynddo fe, a chael cymorthdal enfawr llywodraethol.”
‘Seilio ar gamdybiaeth’
“Roedd yr holl gynllun datblygu unedol lleol wedi cael ei seilio ar gamdybiaeth y byddai Wylfa B yn digwydd, ac rydyn ni’n croesawu’n fawr iawn bod y Cynghorydd Gruffydd Williams wedi siarad gyda llawer o gynghorwyr yng Ngwynedd i dynnu sylw at y ffaith bod y Cynllun Datblygu Lleol angen ei ailwampio’n llwyr,” meddai Dylan Morgan wedyn.
Mae e wedi ysgrifennu llythyr at Gyngor Gwynedd ar ran PAWB, ar y cyd â Chymdeithas yr Iaith, CADNO, a Fforwm Cymru’r Awdurdodau Lleol Di-Niwclear, yn pwyso arnyn nhw i ailystyried y niferoedd o dai newydd.
“Dw i’n meddwl fod yna bwysau newydd wedi dod yn sgil argyfwng Covid, sy’n rhoi pwysau ychwanegol newydd ar y farchnad dai ar draws Cymru, nid jyst yn yr ardaloedd arfordirol.
“Mae’r holl gynllun wedi’i seilio ar sail hollol wallus, a does dim angen y miloedd o dai newydd yma.”