Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi cyflwyno cynllun er mwyn gwneud y Deyrnas Unedig “yn gryfach”.

Yn dilyn etholiadau’r Senedd, a Senedd yr Alban, a’r cytundeb masnach a gafodd ei lofnodi rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd, mae’r cynllun ‘Diwygio ein Hundeb’ wedi cael ei ddiweddaru.

Cafodd y ddogfen ei chyhoeddi am y tro cyntaf yn Hydref 2019, wrth i’r Deyrnas Unedig baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Wrth lansio’r cynllun, dywedodd y Prif Weinidog fod angen ailosod y berthynas â’r Deyrnas Unedig oherwydd ein bod ni, yn rhy aml, yn gweld “Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gweithredu mewn ffordd unochrog ymosodol”.

Rhaid i’r undeb fod yn “seiliedig ar berthynas lle mae pob un yn bartner cydradd, gyda chyfleoedd rheolaidd i’r pedair llywodraeth weithio gyda’i gilydd a rheoli anghydfodau yn briodol”, meddai datganiad.

Y cynigion

Mae ‘Diwygio ein Hundeb’ bellach wedi’i diweddaru i adlewyrchu’r newid yn yr amgylchiadau cyfansoddiadol a gwleidyddol sy’n effeithio ar Gymru a gweddill gwledydd y Deyrnas Unedig.

Mae ugain cynnig yn y ddogfen er mwyn cryfhau’r Undeb, gan gynnwys diwygio Tŷ’r Arglwyddi i adlewyrchu natur y Deyrnas Unedig, a chreu corff cyhoeddus newydd, annibynnol ar gyfer goruchwylio sut mae trefniadau cyllido’n cael ei gwneud yn y Deyrnas Unedig.

Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n gwneud hynny ar hyn o bryd.

Ynghyd â hynny, mae’r cynllun hefyd yn dweud y dylid datganoli cyfiawnder a phlismona i Gymru – fel sydd eisoes yn wir yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd am sefydlu comisiwn annibynnol ar gyfer ystyried dyfodol cyfansoddiadol Cymru, a fydd yn edrych ar y diwygiadau sydd eu hangen a fydd o fudd i Gymru, ac yn ei grymuso, er mwyn iddi ddod yn fwy ffyniannus ac i wella ansawdd bywyd a llesiant.

“Datganoli cryf”

“Rydym yn credu mai trwy ddatganoli cryf – fel bod penderfyniadau am Gymru yn cael eu gwneud yng Nghymru – a thrwy fod yn bartner cydradd mewn Teyrnas Unedig gref, a fydd wedi’i hadfywio, y bydd anghenion Cymru yn y dyfodol yn cael eu diwallu orau,” meddai Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford.

“Er mwyn i hyn allu digwydd, rhaid i’r ffordd y mae’r Undeb yn gweithio newid. Yn wir, mae angen newid ar fyrder – ni fu’r Undeb erioed mor fregus â hyn. Os bydd materion yn parhau yn yr un modd ag y maent ar hyn o bryd, dim ond cryfhau a wna’r achos dros ymwahanu yn y Deyrnas Unedig.

“Yn rhy aml, rydym yn gweld Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gweithredu mewn ffordd unochrog ymosodol, gan honni ei bod yn gweithredu ar ran y Deyrnas Unedig gyfan, ond heb ystyried statws y gwahanol wledydd a mandadau democrataidd eu llywodraeth.

“Undeboliaeth gyhyrog, yn hytrach na gweithio tuag at berthynas wirioneddol adeiladol a chydweithredol rhwng llywodraethau’r Deyrnas Unedig, rydym ni’n ei gweld.

“Mae’n amser ailosod y berthynas. Byddai’r egwyddorion a’r ffyrdd o weithio rydym ni wedi’u hawgrymu yn arwain at Undeb cadarn a gwydn – Undeb a fyddai yn ein barn ni yn cyflawni’r canlyniadau gorau i bobl Cymru a’r Deyrnas Unedig yn ehangach.”

“Cwbl angenrheidiol”

“Mae ‘Diwygio ein Hundeb’ yn nodi achos gwirioneddol dros newid ac rydym yn gobeithio y bydd yn ysgogi trafodaeth ehangach am ddyfodol Cymru a dyfodol y Deyrnas Unedig,” dywedodd Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

“Mae diwygio cyfansoddiadol yn gwbl angenrheidiol. Mae’r fframwaith sydd ar waith ar gyfer gwneud penderfyniadau yn cael effaith uniongyrchol ar y gwasanaethau sydd ar gael inni a’r cymunedau rydym yn byw ynddyn nhw. Wrth inni weithio i greu Cymru gryfach, wyrddach a thecach i bawb, mae’n hanfodol sicrhau bod y fframwaith cywir ar waith.

“Hoffem glywed gan gynifer o bobl ag sy’n bosibl wrth inni ddechrau sgwrs genedlaethol am ein dyfodol ni yng Nghymru a’n perthynas â gweddill y Deyrnas Unedig yn y dyfodol.”

“Diangen a digroeso”

“Dim ond ychydig o wythnosau wedi etholiad y Senedd, bydd pobol ar draws Gymru’n crafu eu pennau dros y ffaith fod hon yn flaenoriaeth i’r weinyddiaeth Lafur ddiweddaraf ym Mae Caerdydd,” meddai Andrew RT Davies, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, wrth ymateb i gyhoeddiad y Prif Weinidog.

“Rydyn ni wedi bod drwy gyfnod eithriadol o anodd, a beth mae pobol eisiau ei glywed gan lywodraethau a gweinidogion o bob lliw ydi sut maen nhw am warchod swyddi, sicrhau cyfleoedd newydd, a chyflwyno cynllun clir ar gyfer adferiad economaidd Cymru, nid dadl gyfansoddiadol a mynnu am fwy o bwerau a gwleidyddion yn y Senedd.

“Efallai fod yna amser a lle ar gyfer y fath drafodaethau, ond nid nawr yw hynny.

“Dyw’r Ceidwadwyr Cymreig ddim yn ymddiheuro am sefyll dros y teuluoedd, y gweithwyr a’r busnesau hynny fydd yn flin fod y weinyddiaeth sydd newydd eu hethol yn rhoi eu hegni ar gymhlethdodau datganoli yn lle achub bywoliaethau pobol.

“Dyfodol economaidd Cymru ddylai fod yr unig flaenoriaeth i weinidogion Llafur – nid trafodaethau diddiwedd ynghylch datganoli – mae hyn yn fater eilradd diangen a digroeso ar gyfnod mor fregus yn ein hadferiad.”

“Sownd yn y gorffennol”

“Mae profiad yn dangos i ni yn glir na fydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig, boed yn goch neu’n las, fyth yn rhoi Cymru gyntaf,” medd Dirprwy Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AoS, wrth ymateb i gynlluniau’r Llywodraeth.

“Mae Llafur wedi bod yn sôn am sefydlu confensiwn cyfansoddiadol ers bron i ddegawd, gyda’r Prif Weinidog ar y pryd, Carwyn Jones, yn addo hyn mor bell yn ôl â 2012. Ond does dim byd yn digwydd. Mae agwedd Llafur tuag at yr undeb i’w weld yn sownd yn y gorffennol.

“Nid dim ond bregus yw’r Deyrnas Unedig – mae’n methu’n llwyr o ran darparu cyfiawnder economaidd a chymdeithasol i bobl Cymru.

“Yr unig ffordd o gyflawni hyn yw trwy roi dyfodol Cymru yn nwylo Cymru, yn rhydd o anhrefn ac anghymhwysedd San Steffan. Dyma pam mae’r gefnogaeth i annibyniaeth yn uwch nag erioed.

“Mae’n bryd i Lafur yng Nghymru roi’r gorau i amddiffyn yr anesgusodol.”