Wrth i fis Pride ddod i ben, mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu pecyn o fesurau i helpu i sicrhau mai Cymru yw’r wlad fwyaf cyfeillgar i bobol LHDTC+ yn Ewrop.

Gan gyhoeddi pecyn cymorth gwerth £25,000 i Pride Cymru, dywedodd Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, eu bod nhw’n “rhoi sail gadarnach” i’r gefnogaeth.

Ochr yn ochr â’r cyllid, bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn sefydlu Cronfa Pride newydd i gefnogi digwyddiadau llawr gwlad ledled Cymru.

Cyfeiriodd Hannah Blythyn at y camau nesaf er mwyn hyrwyddo cydraddoldeb i bobol LHDTC+ yng Nghymru hefyd, a hynny’n seiliedig ar adroddiad gan Banel Arbenigol Annibynnol.

“Hyrwyddo cydraddoldeb”

“A hithau’n Fis Pride, dw i am achub ar y cyfle i ailddatgan ymrwymiad a phenderfyniad y Llywodraeth hon i hyrwyddo cydraddoldeb i bobl LGBTQ+ yng Nghymru,” meddai Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol.

“Mae ein record o gefnogaeth i’r gymuned LGBTQ+ yma yng Nghymru yn un y gallwn ni ymfalchïo ynddi – o ddiwygio’r cwricwlwm i gynnwys addysg am LGBTQ+ i sefydlu gwasanaeth arloesol hunaniaeth o ran rhywedd, a mynd ati cyn un o genhedloedd eraill y DU i gynnig PReP yn rhad ac am ddim o fewn y GIG.

“Yn ystod cyfnod Covid-19 fe wnaethon ni sefydlu grant ar gyfer lleoliadau LGBTQ+, a’r mis yma rhoddodd Prif Weinidog Cymru waed ochr yn ochr â gweithredwyr dros hawliau pobl hoyw a oedd, tan nawr, wedi’u gwahardd rhag rhoi eu gwaed.”

Camau nesaf

Mae’r camau nesaf yn cynnwys sefydlu Panel Arbenigol LHDTC+ i helpu i weithredu’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Hyrwyddo Cydraddoldeb i Bobl LGBTQ+ yng Nghymru, ac i ddal y Llywodraeth yn atebol o ran cynnydd.

Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio i sicrhau fod cymaint o agweddau â phosibl o’r Ddeddf Cydnabod Rhywedd yn cael eu datganoli, yn ogystal â chomisiynu cyngor cyfreithiol ar bob pŵer sydd ar gael i wahardd Therapi Newid Cyfeiriadedd Rhywiol yng Nghymru, waeth faint o oedi sydd yna gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Yn ogystal, bydden nhw’n penodi cydgysylltydd Pride cenedlaethol i gefnogi’r holl waith yn y maes.

“Fe fydd y cynllun uchelgeisiol trawslywodraethol hwn yn amlinellu’r camau pendant y byddwn ni’n eu cymryd i wella bywydau pobl LGBTQ+, i fynd i’r afael â phroblem gwahaniaethu yn eu herbyn, ac yn y pen draw i sicrhau mai Cymru yw’r wlad fwyaf cyfeillgar i bobl LGBTQ+ yn Ewrop,” meddai Hannah Blythyn.

“Fel yn achos cymunedau eraill, rydyn ni’n gwybod bod mwy nag un dimensiwn, yn aml, i’r problemau y mae’r gymuned LGBTQ+ yn eu hwynebu, a dyna pam y bydd y cynllun gweithredu hwn yn canolbwyntio, mewn ffordd na wnaed o’r blaen, ar ryngblethedd y materion hyn.

“Bydd hefyd yn gydnaws â’n gwaith i hyrwyddo hawliau dynol, gan gynnwys y cynllun cydraddoldeb strategol, y Cynllun Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau, y Fframwaith Gweithredu ar Anabledd, ac wrth gwrs ein Cynllun Gweithredu arloesol ar Gydraddoldeb Hiliol.

“Rydyn ni wedi ymrwymo i ddangos nad mater o sloganau a geiriau cynnes yw hyrwyddo’r agenda cydraddoldeb. Mae’n fater o weithredu.

“Mae wedi bod yn uchelgais gennyn ni bob amser, ac fe fydd yn parhau, i sicrhau mai Cymru yw’r genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LGBTQ+ yn Ewrop. Mae cyhoeddiadau heddiw yn gam tuag at gyflawni hynny.”

Pride

“Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi Pride yn y gorffennol, ond bellach rydyn ni’n rhoi sail gadarnach i’r gefnogaeth hon, i helpu gyda chynllunio a chynaliadwyedd hirdymor, nid dim ond un digwyddiad, ond i gydnabod rôl Pride fel mudiad llawr gwlad,” meddai.

“Fe fyddwn ni’n darparu £25,000 o gyllid newydd ar gyfer Pride Cymru eleni, ac yn sefydlu’r gefnogaeth hon, yn ogystal â symiau sylweddol fwy yn y dyfodol.

“Ochr yn ochr â hyn, fe fyddwn ni hefyd yn sefydlu Cronfa Pride newydd i gefnogi digwyddiadau llawr gwlad ledled Cymru.

“Fe fyddwn ni’n cefnogi mudiadau bach i ffynnu ac yn helpu i ofalu bod pob person LGBTQ+ yn gallu cymryd rhan yn yr hyn sydd gan Pride i’w gynnig.

“Fe gynhaliwyd gorymdaith gyntaf Pride ym Mehefin 1970 flwyddyn ar ôl Terfysgoedd Stonewall. Ganwyd Pride o brotest.

“Er ei bod yn iawn ein bod ni’n cydnabod ac yn dathlu pa mor bell rydyn ni wedi dod, dyw cynnydd ddim yn rhywbeth anochel, ac mae Pride yn parhau i fod mor ganolog heddiw ag yr oedd hanner canrif yn ôl.

“Wrth i Fis Pride dynnu i ben, mae angen inni gofio y gallwn ni, gyda’n gilydd, barhau i sicrhau newid a chynnydd, gyda chyd-uchelgais newydd i greu Cymru fwy cyfartal.”