Mae argyfwng cartrefi’n wynebu Cymru, oni bai fod camau brys i gefnogi aelwydydd sy’n cael eu heffeithio gan y pandemig, meddai un felin drafod.
Dangosa ymchwil newydd gan YouGov ar ran Sefydliad Bevan fod un ymhob deg aelwyd yn byw yn mewn cartref anniogel.
Mae 80,000 o aelwydydd wedi gorfod dod o hyd i gartref arall, neu wedi cael hysbyseb yn dweud fod rhaid iddyn chwilio am un.
Daw hyn er gwaethaf ymdrechion gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i warchod cartrefi pobol yn ystod y pandemig.
Mae pryderon y gallai’r sefyllfa waethygu ymhellach hefyd, wrth i rai o’r mesurau i warchod y bobol sydd ar yr incwm isaf yn ystod y pandemig ddod i ben.
Er bod arwyddion fod yr economi’n dechrau gwella wrth i gyfyngiadau gael eu codi, dydi hyn ddim yn effeithio ar bobol o gartrefi ag incymau isel eto, meddai Sefydliad Bevan.
Rhwng Ionawr a Mai 2021, fe wnaeth incwm un ymhob pum aelwyd sydd ag incwm net o lai na £20,000 ostwng.
Yn y misoedd diwethaf, mae miloedd o aelwydydd ag incwm isel wedi gorfod dewis rhwng gwario llai ar wres a bwyd, 10% o aelwydydd Cymru’n hwyr yn talu bil, ac 17% yn gorfod benthyg arian i dalu.
“Arbennig o anodd”
“Mae pawb yn haeddu byw mewn cartref cynnes a diogel, ond mae ein hymchwil diweddaraf yn dangos fod hyn yn cael ei wadu i ormod o bobol,” meddai Dr Steffan Evans o Sefydliad Bevan.
“Fe wnaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig y peth iawn ar ddechrau’r pandemig drwy warchod cartrefi pobol a chefnogi pobol ddigartref.
“Oni bai fod camau brys yn cael eu cymryd yna bydd yr holl waith da yn cael ei ddadwneud.
“Mae’r pymtheg mis diwethaf wedi bod yn anodd i ni gyd, ond maen nhw wedi bod yn arbennig o anodd i aelwydydd ar incwm isel sy’n llawer mwy tebygol o fod wedi gorfod torri’n ôl ar eitemau bob dydd a disgyn i ddyled.
“Mae dros un ymhob pump o aelwydydd yn disgwyl gorfod gwario llai fyth o ddydd i ddydd dros y tri mis nesaf.
“Mae tynnu’r gefnogaeth oddi wrth yr aelwydydd rhain wrth i gyfyngiadau lacio yn ei gwneud hi’n beryg y bydd bywyd yn anoddach fyth.”
Fe wnaeth 1,035 o bobol ymateb i’r pol gan YouGov rhwng 29 a 24 Mai, ac mae’r ystadegau’n gynrychioliadol o holl oedolion Cymru.
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Rydyn ni’n rhannu pryderon Sefydliad Bevan y bydd newid sydyn i ddiddymu cynlluniau cymorth Covid Llywodraeth y Deyrnas Unedig, fel y cynllun ffyrlo a’r arian ategol ar gyfer Credyd Cynhwysol, yn taro’r rhai lleiaf abl i fforddio hynny,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Roedd ymchwil flaenorol a wnaed i raglen diwygiadau treth a lles Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhagweld y byddai lefelau tlodi’n codi o ganlyniad.
“Mae’r prif ysgogiadau ar gyfer mynd i’r afael â thlodi – pwerau dros y systemau treth a lles – yn perthyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ond rydyn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau effaith tlodi a chefnogi’r rhai sy’n byw mewn tlodi.
“Y flwyddyn ariannol hon, rydyn ni wedi sicrhau bod dros £9m ar gael i helpu pobl i gael y cyngor sydd ei angen arnynt i ddatrys problemau gyda’u budd-daliadau lles, tai a dyledion.
“Mae hyn, ochr yn ochr â’n cefnogaeth i ‘gyflog cymdeithasol’ mwy hael – drwy ein Cynnig Gofal Plant, ein Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, ein Rhaglen Cartrefi Cynnes a phresgripsiynau am ddim – yn golygu bod mwy o arian ym mhocedi pobl Cymru.”
“Lle maen nhw am fynd?”
“Mae’r rhain yn ystadegau syfrdanol, ond dyw’r anghydraddoldebau sy’n cael eu datgelu drwy dai anniogel a lefelau o gyflogau isel ddim yn broblemau newydd i Gymru, yn anffodus,” meddai Sioned Williams, llefarydd Plaid Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb.
“Mae gennym ni argyfwng tai yng Nghymru, ac mae ei effaith wedi cyrraedd rhai o’n cymunedau tlotaf yn barod.
“Mae’r adroddiad heddiw gan Sefydliad Bevan yn dangos yn glir fod rhentwyr cymdeithasol a rhieni neu ofalwyr yn arbennig o agored i niwed.
“Gyda’r adroddiad yn dangos fod rhai o’r teuluoedd sydd ar yr incwm isaf wedi gweld gostyngiad yn eu hincwm ers Ionawr eleni, a dros 80,000 o aelwydydd yn cael gwybod nad oes ganddyn nhw gartref, rydyn ni’n cael ein gadael gyda’r cwestiwn – lle maen nhw am fynd, oni bai at ddigartrefedd?”
“Mae Plaid Cymru wedi dadlau ers tro dros fesurau, fel gwaharddiad ar droi pobol allan heb fai ac ymestyn y trothwy ar gyfer prydau ysgol am ddim, fel ffyrdd o leihau effeithiau tlodi a sicrhau lefel o urddas i bawb sy’n byw yng Nghymru.”