Fe ddaeth i’r amlwg fod y plismon sydd wedi’i gael yn euog o ddynladdiad y cyn-bêldroediwr Dalian Atkinson wedi celu rhagor o droseddau pan wnaeth e gais i ymuno â’r heddlu.
Clywodd Llys y Goron Birmingham fod Benjamin Monk wedi cael cadw ei swydd gyda Heddlu Gorllewin Mercia yn 2011 pan gawson nhw wybod am ddau rybudd – un am ddwyn o siop Woolworths lle’r oedd e’n gweithio yn 1997 ac un am fod yn feddw yn 1999.
Doedd dim sôn am y naill na’r llall yn ei ffurflen gais yn 2001, nac ar system gyfrifiadurol yr heddlu oherwydd fod polisi yn ei le ar y pryd oedd yn golygu na fyddai’r cofnodion wedi cael eu cadw ar ôl i’r rhybuddion ddod i ben.
Cafwyd e’n ddieuog yr wythnos ddiwethaf o lofruddio ond yn euog o ddynladdiad ar ôl i’r llys glywed ei fod e wedi defnyddio gwn taser ar Dalian Atkinson am 33 eiliad cyn ei gicio ddwywaith yn ei ben tra ei fod e ar lawr.
Dywedodd Monk, oedd yn gwadu’r ddau gyhuddiad, ei fod e’n cofio cicio Dalian Atkinson unwaith yn ei ysgwydd wrth iddo geisio ei dawelu y tu allan i’w gartref yn Sir Amwythig yn 2016.
Mae Monk wedi’i gadw yn y ddalfa, ac fe fydd yn cael ei ddedfrydu yfory (dydd Mawrth, Mehefin 29).