Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi fframwaith cenedlaethol newydd ar fesurau Covid-19 i’r sector addysg ei ddilyn ar ôl gwyliau’r haf.

Yn ystod cynhadledd i’r wasg heddiw (dydd Llun, Mehefin 28), manylodd Jeremy Miles, yr Ysgrifennydd Addysg a’r Gymraeg, ar gynlluniau er mwyn caniatáu i ysgolion, colegau a phrifysgolion weithredu “mor arferol â phosib”.

Bydd y fframwaith cenedlaethol newydd yn caniatáu i leoliadau addysg gymryd agwedd mwy lleol wrth benderfynu ar fesurau, gan eu cefnogi nhw wrth benderfynu llacio neu gynyddu cyfyngiadau megis profi, defnyddio mygydau a chadw pellter cymdeithasol.

Ar hyn o bryd mae holl ysgolion, colegau a phrifysgolion Cymru yn dilyn canllawiau cenedlaethol penodol, er bod nifer yr achosion Covid-19 yn amrywio o ranbarth i ranbarth.

Sir y Fflint a Sir Ddinbych yn y Gogledd sydd â’r gyfradd saith diwrnod uchaf – gyda mwy na 100 o achosion i bob 100,000 o bobl, tra bod ardaloedd eraill fel Casnewydd 20 achos i bob can mil a Merthyr Tudful 16 achos i bob can mil.

Rhybuddiodd Mr Miles na fyddai pethau “yn ôl i normal erbyn mis Medi”, ond, diolch i’r rhaglen frechu, y byddai’r llywodraeth yn ceisio “lleddfu’n raddol y mesurau eithriadol rydyn ni wedi gorfod eu rhoi ar waith”.

Bydd holl staff addysg Cymru wedi cael cynnig ail ddos o’r brechlyn erbyn diwedd mis Medi hefyd, meddai.

“Mor arferol â phosib”

“Diolch i’r Gwasanaeth Iechyd, a phawb sydd ynghlwm â’r rhaglen frechu, mae dros ddwy filiwn a chwarter o bobol wedi cael eu brechlyn cyntaf, a dros hanner y bobol yng Nghymru wedi cael eu hail,” meddai Jeremy Miles am y sefyllfa ar hyn o bryd.

“Fydd pethau ddim yn ôl i normal erbyn Medi, ond byddwn ni’n edrych ar lacio’r mesurau eithriadol rydyn ni wedi gorfod eu gosod,” meddai Jeremy Miles wedyn.

“Yr egwyddor fydd yn ein harwain yw fod rhaid i addysg weithredu mor arferol â phosib yn yr hydref.

“Ar y funud, mae pob safle addysg yn dilyn canllawiau cenedlaethol.

“Fodd bynnag, wrth i ni symud drwy’r pandemig, bydd angen symud tuag at agwedd mwy lleol.

“I ganiatáu hyn, byddwn ni’n cyhoeddi fframwaith cenedlaethol i’r sector addysg fydd yn eu cefnogi nhw i gynyddu a lleihau ymyrraeth yn seiliedig ar y risg.

“Bydd y fframwaith yn manylu ar amrywiaeth o fesurau diogelwch yn dibynnu ar y categori risg yn seiliedig ar risg isel, canolig, uchel ac uchel iawn.

“Bydd y fframweithiau’n caniatáu cynyddu neu lacio mesurau fel profi, defnyddio mygydau a chadw pellter cymdeithasol.

“Bydd e’n berthnasol i ysgolion, colegau a phrifysgolion, ac mae’n dilyn yr agwedd sy’n digwydd mewn cartrefi gofal.”

Arfer gorau

Esboniodd y bydd Llywodraeth Cymru yn edrych ar yr arfer gorau dros Gymru i sicrhau nad oes niferoedd anghymesur o ddisgyblion yn hunanynysu.

Dywed Jeremy Miles eu bod nhw’n awyddus i wahaniaethu rhwng swigod a phobol sydd wedi bod mewn cyswllt agos ag achos positif o Covid-19, er mwyn sicrhau nad oes niferoedd uchel o blant sy’n gorfod hunanynysu.

“Tra bod swigod ar gyfer dosbarthiadau wedi bod yn bwysig dros y flwyddyn ddiwethaf, rydyn ni angen sicrhau ein bod ni’n gwahaniaethu rhwng swigod ar un llaw a chysylltiad personol ag achosion ar y llaw arall,” meddai.

“Rydyn ni eisiau trafod sut gall lleoliadau ddychwelyd at eu hamseroedd arferol, yn hytrach na chael amseroedd dechrau a gorffen gwahanol fel sydd mewn grym nawr.

“Dydi’r mesurau hyn ddim yn golygu cael gwared ar yr holl fesurau lleihau risg, ond maen nhw’n ymwneud ag ysgolion, colegau a phrifysgolion yn gallu gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar gydbwysedd rhwng y peryglon a lleihau’r amharu ar addysg, i gyd yng nghyd-destun ehangach y rhaglen frechu lwyddiannus a niferoedd gweddol isel o achosion.”

Arlolygu ac asesu: mesurau eraill i leihau’r pwysau

“Dros y ddau fis diwethaf dw i wedi bod yn ddigon lwcus i ymweld ag ysgolion, colegau a lleoliadau addysg eraill, ac mae hi wedi bod yn werthfawr cael siarad gyda dysgwyr a staff, a gwrando ar y ffordd y maen nhw wedi ymateb i’r sefyllfa,” meddai wedyn.

“Yn yr wythnosau diwethaf, dw i wedi gosod fy mlaenoriaeth ynghylch sut ydyn ni’n adfer ac ad-drefnu, gan sicrhau ein bod ni’n parhau i roi llesiant a gwelliannau dysgwyr wrth wraidd popeth rydyn ni’n ei wneud.

“Dw i wedi gosod cyfres o fesurau y byddwn ni’n eu cymryd i leihau’r pwysau posib o fewn y system addysg, a chreu mwy o le i staff gefnogi dysgwyr.

“Mae’r rhain yn cynnwys oedi mesurau asesu perfformiad ac oedi categoreiddio ysgolion.

“Dw i hefyd wedi cytuno i atal rhaglen arolygu Estyn ar gyfer yr hydref,” meddai gan ddweud y bydd e’n parhau i weithio gyda phartneriaid ar gamau ymarferol i’w cymryd i leihau’r pwysau ar y sector.

“O ran asesiadau’r haf hwn, mae disgyblion ar draws Cymru wedi bod yn derbyn eu graddau dros dro ar gyfer TGAU, Uwch Gyfrannol, a Lefel A cyn derbyn eu graddau terfynol a ffurfiol ym mis Awst,” eglurodd Jeremy Miles wedyn.

“Oni bai bod disgybl yn dewis ei fod am i’w raddau gael eu hadolygu neu eu hapelio, gallan nhw fod yn hyderus mai’r graddau y maen nhw’n eu cael dros dro fydd y graddau fyddan nhw’n eu cael ym mis Awst.”

Ymateb

Dywedodd undeb y penaethiaid, NAHT Cymru, ei bod yn pryderu am “sawl agwedd” ar gynlluniau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys “cynllun i gael gwared ar swigod dosbarth” ond gan gadw’r gofyniad i ysgolion nodi cysylltiadau agos disgyblion.

Dywedodd cyfarwyddwr yr undeb, Laura Doel: “At ddibenion hunanynysu, byddai disgwyl i ysgolion ddarparu gwybodaeth i Iechyd Cyhoeddus Cymru.

“Byddai hyn yn cynnwys gwybod pwy oedd [disgyblion] yn agos atyn nhw yn yr ysgol yn ogystal ag wrth gael eu gollwng a’u codi [o’r ysgol].

“Mae angen i Lywodraeth Cymru fod yn realistig ynglŷn â’r hyn sy’n bosibl yma.”

Yn y cyfamser, dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig bod y llywodraeth yn bwriadu “trosglwyddo’r cyfrifoldeb am wneud penderfyniadau” i’r sector addysg.

Dywedodd Gweinidog Addysg yr Wrthblaid, Laura Anne Jones: “Y flaenoriaeth uniongyrchol ddylai fod dychwelyd normalrwydd i’r ystafell ddosbarth, gyda diwedd i grwpiau blwyddyn cyfan yn cael eu hanfon adref, a sicrhau bod pobl ifanc yn cael y math o amgylchedd dysgu adeiladol sydd ei angen arnynt.

“Allwn ni ddim fforddio i gymunedau cyfan gael eu gadael ar ôl diolch i loteri cod post mewn darpariaeth addysg, ac mae angen i weinidogion Llafur ddangos arweiniad ar y mater hwn, a pheidio â throsglwyddo’r cyfrifoldeb am wneud penderfyniadau i staff ac ysgolion sydd eisoes dan bwysau enfawr.”

 

Disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau ar gyfer dychwelyd i’r ysgol fis Medi

“Mewn byd delfrydol, mi fasa dychwelyd i fyw bywyd normal fel rydan ni yn ei gofio cyn Covid yn bosib”