Bydd yn rhaid i dwristiaid o’r Deyrnas Unedig fynd i gwarantîn am bythefnos ar ôl cyrraedd Portiwgal o heddiw (dydd Llun, Mehefin 28), oni bai eu bod nhw wedi cael dau ddos o’r brechlyn.

Daw’r rheol newydd i rym yn sgil pryder cynyddol ynghylch ymlediad amrywiolyn Delta.

Cyn hyn, doedd ymwelwyr o’r Deyrnas Unedig ddim yn gorfod hunanynysu cyn belled â bod ganddyn nhw dystiolaeth o brawf Covid negyddol.

Ond mae Portiwgal wedi gosod ymwelwyr o’r Deyrnas Unedig yn yr un categori perygl ag ymwelwyr o Dde Affrica, Brasil, India a Nepal.

Cafodd Portiwgal ei thynnu oddi ar restr werdd y Deyrnas Unedig ychydig wythnosau’n ôl, sy’n golygu bod yn rhaid i bobol hunanynysu adre’ am ddeng niwrnod wrth ddychwelyd o Bortiwgal.

Melita

Er bod Melita wedi cael eu hychwanegu at restr werdd y Deyrnas Unedig, maen nhw wedi cyhoeddi mai dim ond ymwelwyr o’r Deyrnas Unedig sydd wedi cael dau frechlyn fydd yn cael mynediad i’r ynys.

Bydd plant dan ddeuddeg oed yn cael mynediad i’r wlad hefyd, cyn belled â’u bod nhw’n mynd yno gyda’u rhieni neu ofalwyr sydd wedi cael y ddau ddos.

Rhaid i blant rhwng pump ac 11 oed ddangos tystiolaeth eu bod nhw wedi cael prawf PCR negyddol o fewn y 72 awr flaenorol.

Bydd y rheolau hyn yn dod i rym ddydd Mercher (Mehefin 30), ar y diwrnod mae’r wlad yn cael ei symud i restr werdd y Deyrnas Unedig.

Ynysoedd y Balearig

Yn y cyfamser, mae’r awdurdodau yn Sbaen am gyflwyno cyfyngiadau newydd ar ymwelwyr o’r Deyrnas Unedig sydd am deithio i Ynysoedd y Balearig, sy’n cynnwys Ibiza a Mallorca.

Dywedodd y prif weinidog Pedro Sanchez wrth radio Cadena SER y bydd yn rhaid i deithwyr sydd heb gael dau ddos o’r brechlyn gael prawf Covid-19 negyddol.

Bydd y newid yn dod i rym o fewn 72 awr, meddai, sy’n golygu y bydd y rheol mewn grym erbyn y bydd Ynysoedd y Balearig yn cael eu hychwanegu at restr werdd y Deyrnas Unedig am 4 o’r gloch fore dydd Mercher (Mehefin 30).