Mae protestwyr sy’n cefnogi annibyniaeth i Gatalwnia wedi cynnal protest wrth i frenin Sbaen ymweld â Barcelona.

Daw ymweliad y brenin Felipe VI wrth i’r awdurdodau ym Madrid geisio cymodi ag ymgyrchwyr tros annibyniaeth.

Roedd y brenin yn y ddinas ar gyfer agoriad ffair fasnach ryngwladol.

Mae protestiadau o’r fath yn gyffredin yng Nghatalwnia, yn enwedig ar adegau pan fo ymgyrchwyr tros annibyniaeth wedi bod dan y lach, fel sydd wedi digwydd yn ddiweddar.

Daw’r brotest wrth i Pere Aragones, arlywydd Catalwnia, baratoi i gyfarfod â Pedro Sanchez, prif weinidog Sbaen, ym Madrid yfory (dydd Mawrth, Mehefin 28), a hynny am y tro cyntaf ers i Aragones ddod i rym.

Daw’r cyfarfod wythnos ar ôl i Pedro Sanchez gyhoeddi pardwn amodol i naw o ymgyrchwyr annibyniaeth a gafodd eu carcharu am eu rhan mewn refferendwm annibyniaeth a gafodd ei ystyried yn anghyfansoddiadol gan Sbaen.