Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau ar gyfer dychwelyd i’r ysgol fis Medi heddiw (dydd Llun, Mehefin 28).
Daw hyn wrth i rai o fewn y sector addysg glywed y bydd cyfyngiadau yn cael eu llacio.
Bydd Jeremy Miles, yr Ysgrifennydd Addysg, yn cynnal cynhadledd i’r wasg y prynhawn yma.
Mae rhai o fewn y sector addysg yn gofidio am drydedd ton, ac yn awyddus i gael gwybod yn union beth fyddan nhw’n wynebu ym mis Medi.
Erbyn hynny, mae’n debyg y bydd pob oedolyn wedi cael dau ddos o’r brechlyn.
Ac mae’r Llywodraeth eisoes wedi dweud y byddan nhw’n ystyried llacio rheolau ar wisgo mygydau mewn ysgolion.
Ond dydy hi ddim yn glir a fydd swigod dosbarth a rheolau cadw pellter cymdeithasol yn dal mewn grym.
Wrth siarad â Radio Cymru, dywedodd Bronwen Hughes, Pennaeth Ysgol Maes Garmon yn yr Wyddgrug, fod “rhaid i ni gadw golwg ar gyfraddau dros wyliau’r haf”.
“Mae’n rhaid i ni hefyd fel arweinwyr ysgol ddilyn y canllawiau sy’n dod gan Lywodraeth Cymru,” meddai.
“Mewn byd delfrydol, mi fasa dychwelyd i fyw bywyd normal fel rydan ni yn ei gofio cyn Covid yn bosib.
“Ond fel arall, ac os ydi cyfraddau dal yn uchel, neu os oes yno bryder am gyfraddau, bydd yn rhaid i ni ddilyn y canllawiau sy’n dod a byw bywyd sut bynnag y mae’r Llywodraeth yn gofyn i ni wneud unwaith eto.”