Mae’r Blaid Lafur yn galw am ymchwiliad i ddefnydd gweinidogion o gyfrifon e-bost personol at ddibenion gwaith.

Daw hyn ar ôl i’r Sunday Times honni bod Matt Hancock, cyn-Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, wedi torri’r cod gweinidogol drwy ddefnyddio ei gyfrif personol ar gyfer ei waith.

Mae Angela Rayner, dirprwy arweinydd y Blaid Lafur, yn dweud bod yr arfer yn un “amheus” sydd â’r potensial i “gelu gwybodaeth hanfodol”.

Mae’r Adran Iechyd yn mynnu bod gweinidogion yn defnyddio cyfrifon adrannol i wneud eu gwaith.

Ond mae’r Sunday Times yn dweud bod ganddyn nhw dystiolaeth fod Matt Hancock yn defnyddio cyfrif personol yn rheolaidd, tra bod yr Arglwydd Bethell hefyd wedi defnyddio’i gyfeiriad personol yn y gwaith, ac yntau eisoes dan y lach am roi pàs i Gina Coladangelo, cariad Hancock, er mwyn iddi gael mynediad i San Steffan.

Mae’r sefyllfa’n golygu ei bod hi’n bosib nad oes cofnod swyddogol llawn o waith y cyn-Ysgrifennydd Iechyd yn ystod y pandemig Covid-19.

Ymchwiliad

Wrth ymateb, mae Angela Rayner yn galw am ymchwiliad er mwyn dod o hyd i unrhyw e-byst sy’n berthnasol i ymateb Matt Hancock a Llywodraeth Prydain i’r pandemig.

Mewn llythyr at ysgrifennydd cabinet a’r comisiynydd gwybodaeth, mae hi’n ceisio eglurhad ynghylch pam fod cyfrifon e-byst personol yn cael eu defnyddio i drafod gwaith y llywodraeth ac a oes yna enghreifftiau o dorri’r gyfraith.

Mae’r Swyddfa Cabinet yn mynnu bod gweinidogion yn datgelu unrhyw ddefnydd o gyfrifon personol at ddibenion gwaith, a bod unrhyw wybodaeth berthnasol yn y negeseuon ar gael yn eang a hynny drwy anfon copi at gyfeiriadau adrannol perthnasol.

Honiadau

Yn ôl y Sunday Times, fe fu Matt Hancock yn defnyddio cyfrif Gmail i anfon e-byst ac fe gafodd hynny ei grybwyll mewn neges ymhlith swyddogion yr Adran Iechyd.

Yn ôl un swyddog, doedd gan Hancock ddim cyfeiriad adrannol gweithredol ac roedd yr Arglwydd Bethell yn defnyddio cyfrif personol hefyd, ond roedd y ddau wedi datgelu unrhyw negeseuon perthnasol.

Daw’r helynt diweddaraf ddyddiau’n unig ar ôl i Hancock gamu o’r neilltu ar ôl cael ei ddal ar fideo yn cusanu cydweithiwr yn groes i gyfyngiadau Covid-19 ar y pryd.

Mae natur penodiad Gina Coladangelo i weithio gyda’r Adran Iechyd yn cael ei gwestiynu, ac mae ymchwiliad ar y gweill i geisio darganfod sut aeth y fideo o’r pâr i ddwylo’r wasg.

Matt Hancock, Ysgrifennydd Iechyd San Steffan

Cyhuddo Matt Hancock o ddefnyddio cyfeiriad e-bost personol yn y gwaith

Swyddogion yn rhybuddio nad yw’n edrych yn dda