Mae Matt Hancock, cyn-Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, wedi’i gyhuddo o ddefnyddio cyfeiriad e-bost personol yn y gwaith.

Mae swyddogion yn rhybuddio nad yw’n edrych yn dda ei fod e wedi defnyddio cyfrif Gmail personol, a hynny ar ôl iddo gamu o’r neilltu ar ôl iddi ddod i’r amlwg ei fod e wedi torri rheolau pellter cymdeithasol wrth gusanu ei gariad yn ei swyddfa.

Yn ôl y Sunday Times, mae cofnodion cyfarfodydd yn dangos fod Hancock wedi bod yn defnyddio cyfeiriad personol ers mis Mawrth y llynedd, sy’n golygu na chafodd penderfyniadau allweddol a’r rhesymau amdanyn nhw eu cofnodi’n swyddogol ac y gallai fod yn anodd cael gafael ar y cofnodion swyddogol yn y dyfodol.

Mae’r Adran Iechyd yn mynnu bod rhaid i weinidogion ddefnyddio cyfeiriad e-bost gwaith, ac mae lle i gredu bod Matt Hancock wedi cael rhybudd y llynedd.

Un arall sy’n defnyddio cyfrif personol, yn ôl y papur newydd, yw’r Arglwydd Bethell sydd dan y lach am ddefnyddio pàs i roi mynediad i Gina Coladangelo, cariad Hancock, i San Steffan.

Mae pryderon y gallai defnyddio cyfrifon personol hefyd beryglu gwybodaeth gyfrinachol neu sensitif.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Iechyd wrth The Times fod “yr holl weinidogion yn deall y rheolau ynghylch y defnydd o e-bost personol a dim ond cynnal busnes y Llywodraeth drwy eu cyfeiriadau e-bost adrannol”.