Mae cerddwr wedi cael anafiadau yn dilyn achos o daro a ffoi rhwng Sarn Meyllteyrn a Botwnnog yn Llŷn.

Fe ddigwyddodd am oddeutu 11 o’r gloch neithiwr (nos Sadwrn, Mehefin 26).

Fe wnaeth y gyrrwr adael y safle heb gynnig cymorth i’r cerddwr, yn ôl yr heddlu, sy’n apelio am wybodaeth.

Mae’r heddlu’n cynnal ymchwiliad er mwyn ceisio darganfod gwneuthuriad y cerbyd.

Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am dystion, a dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â nhw ar 101.

Yn ôl yr heddlu, mae’n debygol iawn y bydd y cerbyd wedi’i ddifrodi.