Mae’r rhybudd melyn am law trwm mewn 12 o siroedd yng Nghymru wedi cael ei ymestyn am dair awr arall hyd at 10 o’r gloch fore heddiw (dydd Llun, Mehefin 28).

Fe ddaeth i rym am 2 o’r gloch brynhawn ddoe (dydd Sul, Mehefin 27) ac roedd i fod i ddod i ben am 7 o’r gloch fore heddiw.

Mae arbenigwyr yn darogan llifogydd ac oedi i deithwyr yn y de-ddwyrain yn benodol, wrth i hyd at 40mm o law gwympo, gyda rhai ardaloedd yn gweld hyd at 80mm.

Mae gyrwyr wedi’u rhybuddio i fod yn ofalus yn sgil amodau gyrru gwael, a gallai rhai ffyrdd orfod cau.

Mae’r rhybudd yn ei le yn y siroedd canlynol – Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Pen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf.