Mae disgwyl i Sajid Javid roi datganiad am lacio cyfyngiadau Covid-19 yn Lloegr heddiw (dydd Llun, Mehefin 28).

Dyma’i ddatganiad cyntaf ers iddo fe ddychwelyd i Gabinet Llywodraeth Prydain yn Ysgrifennydd Iechyd yn San Steffan.

Wrth gael ei benodi dros y penwythnos, dywedodd ei fod e am i bobol gael dychwelyd i’r arfer “cyn gynted â phosib ac mor gyflym â phosib”.

Does dim disgwyl iddo fe lacio’r cyfyngiadau cyn Gorffennaf 19, ond mae’n hyderus na fydd rhaid gohirio y tu hwnt i’r dyddiad hwnnw.

Mae gweinidogion San Steffan wedi addo rhoi wythnos o rybudd cyn y bydd llacio pellach.

Mae lle i gredu bod yr Ysgrifennydd Iechyd yn fwy agored i lacio na’i ragflaenydd, oedd yn cael ei ystyried yn rhwystr i unrhyw lacio ac a oedd yn galw o hyd am ymestyn y cyfnodau clo yn ystod y pandemig.

‘Cyfrifoldeb enfawr’

Mae Sajid Javid eisoes wedi cydnabod fod gando fe “gyfrifoldeb enfawr” wrth ymgymryd â’r gwaith.

Yn ogystal â chyfyngiadau Covid, fe fydd yn rhaid iddo fe fynd i’r afael â diwygio’r Gwasanaeth Iechyd, rhestrau aros hir am driniaeth a chynllun gofal cymdeithasol y bu aros hir amdano.

Fe fydd e hefyd yn wynebu cwestiynau am gyflogau staff y Gwasanaeth Iechyd a’u blinder ar ôl cyfnod anodd yn ystod y pandemig.

Sajid Javid

Sajid Javid yw Ysgrifennydd Iechyd newydd San Steffan

“Anrhydedd” i’r cyn-Ganghellor ac Ysgrifennydd Cartref, sy’n olynu Matt Hancock
Matt Hancock, Ysgrifennydd Iechyd San Steffan

Matt Hancock wedi ymddiswyddo

Hancock wedi ymddiswyddo fel Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ddiwrnod ar ôl i fideos ddod i’r amlwg ohono’n cusanu cynorthwy-ydd