Mae sawl clwstwr newydd o Covid-19 yn Awstralia, ac mae arbenigwyr yn rhybuddio mai hwn yw’r cyfnod peryclaf yn y wlad ers dechrau’r pandemig.

Mae Sydney yn nwyrain y wlad a Darwin yn y gogledd eisoes dan glo, mae gwisgo mygydau’n orfodol am dridiau yn Perth yn y gorllewin ac fe allai’r ardal honno fynd i gyfnod clo hefyd yn dilyn achos positif ar ôl i unigolyn ymweld â Sydney dros wythnos yn ôl.

Mae disgwyl i bobol orfod gwisgo mygydau yn Brisbane a Canberra cyn bo hir hefyd, a bydd cyfyngiadau newydd yn eu lle yn ne’r wlad o yfory (dydd Mawrth, Mehefin 29).

Fe fu llai na 31,000 o achosion yn y wlad ers dechrau’r pandemig, a hynny am fod yr awdurdodau wedi gallu rheoli’r ymlediad yn effeithiol, ond dim ond 5% o’r boblogaeth sydd wedi derbyn brechlyn Covid-19 hyd yn hyn.

Mae lle i gredu bod y sefyllfa ddiweddara’n deillio o brawf positif gyrrwr limousine yn Sydney am amrywiolyn Delta ar Fehefin 16.

Doedd e ddim wedi’i frechu, ac mae lle i gredu nad oedd e’n gwisgo mwgwd a’i fod e wedi cael ei heintio wrth gludo teithwyr o dramor o faes awyr Sydney.

Roedd 18 o achosion newydd yn nhalaith New South Wales heddiw (dydd Llun, Mehefin 28), sydd ychydig yn is na’r penwythnos.

Yn ôl yr awdurdodau, fydd dim modd gweld effaith y cyfnod clo yn Sydney am hyd at bum niwrnod.

Ymhlith y mesurau sy’n cael eu hystyried yn y wlad ar hyn o bryd mae lleihau’r amser rhwng dau ddos o frechlyn Covid-19 o 12 wythnos i wyth.

Ac mae’r sefyllfa hefyd wedi codi cwestiynau am ba mor ddiogel yw cwarantîn Covid-19 yn y wlad, sef achos y rhan fwyaf o’r achosion newydd sy’n ymddangos yno.

Mae lle i gredu y gallai cannoedd o bobol fod wedi cael eu heintio yn dilyn un achos, ar ôl i löwr fynd i gwarantîn ac mae’r awdurdodau’n ceisio olrhain y sefyllfa.

Mae llywodraeth Queensland yn galw ar lywodraeth Awstralia i gynyddu’r mesurau ger y ffiniau er mwyn cyfyngu ar hawl pobol i symud i mewn ac allan o’r wlad.