Mae cynlluniau i gyflwyno terfyn cyflymder o 50 milltir yr awr ar ran newydd o Ffordd Blaenau’r Cymoedd rhwng Brynmawr a Gilwern yn ennyn ymateb cryf gan bobol leol.

Daw hyn wrth i ymgynghoriad gael ei gynnal am y cynlluniau i osod y terfyn cyflymder ar hyd bron i bum milltir o ffordd A465 ar gost o £336m.

Mae disgwyl i’r gwaith gael ei gwblhau erbyn yr hydref, ddwy flynedd yn hwyrach na’r disgwyl.

Ond mae rhai pobol leol yn credu fod y gwaith wedi bod yn fwy o drafferth nag o werth, a dydyn nhw ddim am weld terfyn cyflymder o 50 milltir yr awr.

“Mae wedi bod yn dipyn o broblem yn enwedig pan wnaethon nhw benderfynu cau Brynmawr yn gyfan gwbl,” meddai Eifion Lloyd Davies, dyn lleol, wrth raglen Dros Frecwast ar Radio Cymru.

“Dydyn ni ddim wedi gallu dod oddi ar y briffordd a dod i mewn i’r dref.

“Yn ystod y gwaith, rydyn ni’n methu mynd oddi ar y briffordd i gyfeiriad Merthyr chwaith.”

Ymateb

“Mi fydd ei droi’n ffordd ddeuol yn helpu llif y traffig, yn torri amser teithio ac yn gwella diogelwch y ffordd gan ystyried yr effaith amgylcheddol hefyd,” meddai llefarydd ran ran Llywodraeth Cymru wrth ymateb i’r feirniadaeth.