Mae Matt Hancock wedi ymddiswyddo fel Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth y Deyrnas Unedig, gyda’r cyn-Ganghellor Sajid Javid yn cymryd ei le, ddiwrnod ar ôl i fideos ddod i’r amlwg o Mr Hancock yn cusanu cynorthwy-ydd yn ei swyddfa weinidogol.

Cyhoeddodd papur newydd The Sun luniau o’r hyn sy’n ymddangos fel ffilm CCTV o’r tu mewn i’w swyddfa weinidogol, lle’r oedd yn cusanu Ms Gina Coladangelo gan dorri canllawiau coronafeirws.

Roedd Ms Coladangelo, ffrind o ddyddiau Mr Hancock ym Mhrifysgol Rhydychen, yn gynghorydd di-dâl yn wreiddiol, cyn cael rôl £15,000 y flwyddyn fel cyfarwyddwr anweithredol yn yr adran iechyd.

Ysgrifennodd Mr Hancock at Boris Johnson ddydd Sadwrn gan ddweud: “Y peth olaf y byddwn i ei eisiau yw i’m bywyd preifat dynnu sylw oddi ar y ffocws sy’n ein harwain allan o’r argyfwng hwn.

“Hoffwn ailadrodd fy ymddiheuriad…”

“Hoffwn ailadrodd fy ymddiheuriad am dorri’r canllawiau, ac ymddiheuro i’m teulu a’m hanwyliaid am eu rhoi drwy hyn. Mae angen i mi hefyd fod gyda fy mhlant ar hyn o bryd.”

Dywedodd: “Mae dyletswydd arnom i bobl sydd wedi aberthu cymaint yn y pandemig hwn i fod yn onest pan fyddwn wedi eu siomi fel yr wyf wedi’i wneud drwy dorri’r canllawiau.”

Cyfaddefodd hefyd “na chawsom bob penderfyniad yn iawn”.

Ond dywedodd: “Rwy’n gwybod bod pobl yn deall pa mor anodd yw delio â’r anhysbys, gan geisio’r cydbwysedd anodd rhwng rhyddid, ffyniant ac iechyd…”

Mewn fideo a bostiwyd ar Twitter, dywedodd Mr Hancock: “Rwy’n deall yr aberth enfawr y mae pawb yn y wlad hon wedi’i wneud … Ac mae’n rhaid i’r rheini ohonom sy’n gwneud y rheolau hyn gadw atynt a dyna pam mae’n rhaid i mi ymddiswyddo.”

Mewn ymateb i lythyr Mr Hancock, ysgrifennodd y Prif Weinidog: “Dylech adael eich swydd yn falch iawn o’r hyn rydych wedi’i gyflawni – nid yn unig wrth fynd i’r afael â’r pandemig, ond hyd yn oed cyn i Covid-19 ein taro.”

Ac aeth Boris Johnson ymlaen: “Yn anad dim, eich tasg chi oedd delio â her sy’n fwy na’r hyn sydd wedi’i wynebu gan unrhyw un o’ch rhagflaenwyr, ac wrth ymladd Covid rydych wedi ymateb i’r her honno – gyda’r egni, y deallusrwydd a’r penderfynoldeb sy’n nodweddol ohonoch chi.”

Etholwyr yn “gandryll”

Ddydd Sadwrn fe ddechreuodd ASau Ceidwadol alw am ymddiswyddiad Mr Hancock.

Er enghraifft, dywedodd Syr Christopher Chope, AS Christchurch, fod ei etholwyr yn “gandryll”.

Dywedodd AS Gogledd Norfolk, Duncan Baker: “Yn fy marn i dylai pobl mewn swydd gyhoeddus uchel a swyddi â chyfrifoldeb mawr weithredu gyda’r moesau priodol sy’n dod gyda’r rôl honno.”

Roedd y Prif Weinidog, Boris Johnson, wedi gwrthod diswyddo Mr Hancock, gyda’i lefarydd yn dweud fod Mr Johnson o’r farn fod y mater “wedi cau” ar ôl derbyn ymddiheuriad Mr Hancock ddydd Gwener.

Trydarodd arweinydd Llafur, Keir Starmer: “Mae Matt Hancock yn iawn i ymddiswyddo. Ond dylai Boris Johnson fod wedi ei ddiswyddo.”

Dywedodd ysgrifennydd iechyd yr wrthblaid Jonathan Ashworth: “Mae’n iawn bod Matt Hancock wedi ymddiswyddo. Ond pam nad oedd gan Boris Johnson y dewrder i’w ddiswyddo a pham y dywedodd fod y mater wedi cau?

“Mae Boris Johnson wedi dangos nad oes ganddo’r un o’r rhinweddau arweinyddiaeth sy’n ofynnol gan Brif Weinidog.”