Mae Sajid Javid wedi’i benodi’n Ysgrifennydd Iechyd San Steffan yn dilyn ymddiswyddiad Matt Hancock, ac mae’n dweud ei bod yn “anrhydedd” cael derbyn y swydd.
Daw hyn ar ôl i Hancock, sy’n briod a chanddo blant, dorri rheolau pellter cymdeithasol Covid-19 wrth gynnal perthynas â chydweithiwr yn ei swyddfa.
Fe ddaeth y sefyllfa i’r amlwg ddiwedd yr wythnos yn dilyn erthygl yn The Sun, sy’n dangos Hancock yn cusanu Gina Coladangelo, sydd hefyd yn briod, yn Whitehall.
Yn ei lythyr yn ymddiswyddo, dywedodd Hancock nad oedd e am i’w “fywyd preifat dynnu sylw” oddi ar yr ymdrechion i frwydro’r feirws.
Mewn fideo, dywedodd Hancock ei fod e’n “deall yr aberthion enfawr mae pawb yn y wlad hon wedi’u gwneud”.
“Ac mae’n rhaid i’r rheiny ohonom sy’n gwneud y rheolau hyn gadw atyn nhw a dyna pam fod rhaid i fi ymddiswyddo,” meddai.
Sajid Javid yn dychwelyd i’r Cabinet
Daw penodiad Sajid Javid 16 mis ar ôl iddo adael cabinet Boris Johnson.
Chwe mis yn unig barodd e yn ei swydd yn Ganghellor, ac fe ymddiswyddodd e lai na mis cyn y Gyllideb pan gafodd ei orchymyn i ddiswyddo’i staff os oedd e am gadw ei swydd ei hun.
Daeth ei ymddiswyddiad yng nghanol ffrae rhwng nifer o weinidogion a Dominic Cummings, cyn-brif ymgynghorydd y prif weinidog Boris Johnson.
Yn ogystal â Covid-19, fe fydd yn rhaid iddo fe fynd i’r afael â mater diwygio’r Gwasanaeth Iechyd, ffrae ynghylch cyflogau, diffyg cynllun ar gyfer gofal cymdeithasol, penodi prif weithredwr newydd i’r Gwasanaeth Iechyd a rhestrau aros hir am driniaethau.
Mae Jonathan Ashworth, llefarydd iechyd Llafur yn San Steffan, yn galw ar Sajid Javid i egluro sut fydd e’n mynd i’r afael â’r materion hyn.
Cwestiynau i’w hateb o hyd
Er bod y sylw’n troi at Sajid Javid, fe fydd cwestiynau i’w hateb o hyd am helynt Matt Hancock a’i benderfyniad i benodi ei ffrind coleg, Gina Coladangelo, i swydd £15,000 y flwyddyn fel cyfarwyddwr anweithredol ar ôl iddi fod yn gwneud gwaith di-dâl fel ymgynghorydd.
Mae Llafur yn galw am gyhoeddi’r holl ddogfennau’n ymwneud â’i phenodiad.
Roedd Boris Johnson wedi bod yn gwrthod diswyddo Hancock yn dilyn yr helynt, gan ddweud ei fod yn credu bod y mater ar ben ar ôl iddo gynnig ymddiheuriad.
Ond roedd Johnson a Hancock dan bwysau cynyddol wrth i aelodau seneddol Ceidwadol droi ar Hancock hefyd, gyda rhai yn dweud bod eu hetholwyr yn “gandryll” ac nad oedd ganddyn nhw hyder ynddo fe bellach.