Mae llai o bobol o blaid annibyniaeth i’r Alban erbyn hyn, yn ôl pôl piniwn ar ran y Sunday Times.

Yn ôl y pôl, dim ond 48% sydd o blaid ar hyn o bryd, ac mae’r ffigwr hwnnw’n cynnwys y rhai sy’n ansicr – pedwar pwynt yn is na mis Ebrill.

52% sydd o blaid aros yn yr Undeb, i fyny pedwar pwynt.

Cafodd 1,287 o oedolion dros 16 oed eu holi rhwng Mehefin 16-24.

Yn ôl Syr John Curtice o Brifysgol Ystrad Clud, mae’n dangos bod llai o awydd am annibyniaeth yn dilyn etholiadau Holyrood fis diwethaf.

Roedd 46% o’r rhai wnaeth ateb yn credu na ddylid cynnal refferendwm annibyniaeth arall “yn y blynyddoedd nesaf”, gyda 19% yn unig yn dweud y dylid ei gynnal o fewn 12 mis, a 35% o’r farn y dylid ei gynnal ymhen dwy i bum mlynedd.

Roedd 22% yn credu y byddai’r Alban yn annibynnol o fewn pum mlynedd, 24% o’r farn y byddai’n annibynnol ymhen pump i ddeg o flynyddoedd.

Ond doedd 24% ddim yn credu bod annibyniaeth yn debygol “ar unrhyw adeg yn y degawdau nesaf”.

Ymateb

“Mae ysgwyddau llydan y Deyrnas Unedig wedi helpu ym mhob rhan o’r wlad drwy’r argyfwng yma, o warchod swyddi i raglen frechu lwyddiannus, felly dydy hi ddim yn syndod fod mwy o bobol yn cydnabod manteision aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig,” meddai Pamela Nash, prif weithredwr yr ymgyrch Scotland in Union.

“Dylai Llywodraeth yr Alban wrando ar yr hyn mae pleidleiswyr yn ei ddweud, a chanolbwyntio ar yr adferiad Covid, a fydd yn cymryd nifer o flynyddoedd, a pheidio ag ailagor hen raniadau.

“Fel rhan o’r Deyrnas Unedig, gallwn adeiladu adferiad nad yw’n gadael yr un gymuned ar ôl.”