Mae dau gynghorydd yn Sir Drefaldwyn yn ymgyrchu i sicrhau nad yw gwasanaethau ambiwlans y sir yn cael eu torri – ac yn cael eu hymestyn mewn rhai ardaloedd.
Mae Elwyn Vaughan a Bryn Davies, sy’n cynrychioli Plaid Cymru, am weld pob gorsaf ambiwlans ar agor 24 awr y dydd.
Byddai hyn yn golygu ymestyn oriau agor y gorsafoedd yn Llanidloes a Llanfylli, cadw gorsaf Machynlleth sy’n wynebu toriadau a sicrhau mwy o gerbydau i’r Drenewydd a’r Trallwng.
“Yn rhy aml o lawer, mae ambiwlansys yn aros y tu allan i’n prif ysbytai megis Telford, Amwythig neu Wrecsam, sy’n arwain at dynnu ambiwlansys i mewn o rannau eraill o Sir Drefaldwyn i leddfu’r pwysau yn y Trallwng neu’r Drenewydd ond wrth wneud hynny, yn tanseilio’r cyfar mewn llefydd megis Machynlleth, Llanfyllin neu Lanidloes,” meddai’r cynghorwyr mewn datganiad.
“Mae hyn yn broblem yn enwedig yn y nos lle caiff criw o Fachynlleth ei alw i’r Drenewydd, dim ond i orffen yn ysbytai Telford neu Henffordd hyd yn oed.
“Mae gyda ni sefyllfa eisoes lle mae gorsafoedd Llanfyllin a Llanidloes ynghau yn y nos, rydyn ni’n deall fod yna fygythiad go iawn y bydd hynny hefyd yn digwydd maes o law ym Machynlleth, sy’n golygu na fydd cyfar bron o gwbl yn y rhan fwyaf o Sir Drefaldwyn yn y nos.
“O gofio bod gorsafoedd Tywyn a’r Bala hefyd ynghau yn y nos a bod ambiwlans Dolgellau yn aml yn cael ei dynnu tuag at rannau gogleddol Gwynedd, mae’n golygu y gall fod y rhan fwyaf o dde Gwynedd a gogledd Powys bron heb gyfar yn y nos – sefyllfa warthus.”
Maen nhw’n dweud eu bod nhw wedi trafod y sefyllfa â Mabon ap Gwynford a Cefin Campbell, dau o aelodau’r blaid yn y Senedd, ac y byddan nhw’n codi’r pryderon â’r Ysgrifennydd Iechyd Eluned Morgan.
Maen nhw eisoes wedi codi’r mater yn lleol yng Nglantwymyn, ac fe fydd yn cael ei drafod hefyd gan Gyngor Tref Machynlleth yfory (dydd Llun, Mehefin 28), a bydd deiseb ar-lein yn cael ei sefydlu yr wythnos hon.
“Rydyn ni eisiau dull synhwyrol wedi’i gydlynu sy’n sicrhau y gall ein holl gymunedau cefn gwlad gael yr un lefel o wasanaeth â lleoliadau trefol,” meddai’r cynghorwyr wedyn.
“Dydy hyn ddim yn golygu cost enfawr, ond mae’n sicrhau y bydd bywydau’n cael eu hachub.”