Mae rhybudd melyn am law trwm yng Nghymru o 2 o’r gloch heddiw (dydd Sul, Mehefin 27).

Bydd y rhybudd yn ei le tan 7 o’r gloch bore fory (dydd Llun, Mehefin 28).

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, gallai’r de-ddwyrain ddioddef llifogydd ac maen nhw’n darogan rhwng 20-40mm o law ar y cyfan, gyda rhai ardaloedd yn gweld hyd at 80mm, gyda hyd at 25mm o fewn awr.

Mae disgwyl glaw trwm parhaus mewn 12 o siroedd – Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Pen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf.

Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio gyrwyr i fod yn ofalus ar y ffyrdd.