Mae Boris Johnson dan y lach yn dilyn helynt Matt Hancock, ac mae’r Blaid Lafur wedi codi nifer o gwestiynau ynghylch y sefyllfa.

Mae Alan Johnson yn dweud nad oedd camerâu yn ei swyddfa pan oedd e’n aelod o Gabinet Llywodraeth Lafur o dan arweiniad Tony Blair a Gordon Brown.

Daw hyn ar ôl i Matt Hancock gael ei recordio ar gamera yn cusanu ei gydweithiwr Gina Coladangelo mew swyddfa yn Whitehall.

Wrth siarad ar raglen Trevor Phillips on Sunday ar Sky News, dywedodd nad oedd e “fyth yn gallu deall” pam fod camera yn swyddfa Matt Hancock.

“Doedd yna fyth gamera yn fy swyddfa i pan o’n i’n Ysgrifennydd Iechyd nac yn un arall o’r pum swydd yn y cabinet,” meddai.

Ymchwiliad

Yn y cyfamser, mae Lucy Powell, llefarydd tai Llafur yn San Steffan, yn dweud y dylai’r heddlu gynnal ymchwiliad i’r helynt.

Daw hyn ar ôl i Matt Hancock gyfaddef iddo dorri rheolau pellter cymdeithasol, ac mae cwestiynau ynghylch y modd y cafodd ei gariad ei phenodi i wneud gwaith i’r Llywodraeth Geidwadol.

Yn ôl Lucy Powell, mae Hancock wedi’i gyfeirio at yr heddlu gan yr aelod seneddol Llafur Fleur Anderson er mwyn darganfod a yw e wedi torri’r gyfraith.

Ar yr adeg y cafodd Hancock ei ffilmio yn ei swyddfa, roedd Llywodraeth Prydain yn dweud na châi’r cyhoedd gofleidio’i gilydd yn sgil Covid-19.

Ond mae’n dweud ei bod hi bellach yn amlwg fod y cyn-Ysgrifennydd Iechyd “mewn dwy swigen ar yr un pryd”, ac mae’n pwysleisio bod Hancock yntau wedi beirniadu’r Athro Neil Ferguson yn ystod y cyfnod clo pan ddaeth i’r amlwg ei fod yn ymweld â’i gariad yn groes i’r canllawiau.

“Allwch chi ddim cael yr un sy’n gwneud y rheolau’n torri’r rheolau, mae pobol eisiau gwybod fod atebolrwydd ynghlwm wrth hynny,” meddai.

Yn y cyfamser, mae Llafur am sicrhau na fydd e’n derbyn £16,000 fel rhan o’r pecyn i ddirwyn ei gyflogaeth i ben.

Dywed Lucy Powell y byddai pobol “yn ffieiddio” o wybod fod ganddo fe hawl i dderbyn y taliad, yn enwedig pan fo cymaint o sôn nad yw staff y Gwasanaeth Iechyd yn derbyn digon o gyflog.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a fydd e’n derbyn yr arian ar ôl gadael ei swydd.

Daw ei sylwadau wrth i’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol gadarnhau y bydd ymchwiliad i ddarganfod sut y cafodd y fideo ei roi i’r wasg, yn ôl Brandon Lewis, Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon.

“Mae’n rhywbeth mae’n rhaid i ni fynd at ei wraidd,” meddai wrth raglen Trevor Phillips on Sunday ar Sky News.

“Yn gwbl briodol, gall yr hyn sy’n digwydd yn adrannau’r Llywodraeth fod yn sensitif ac yn bwysig.”

Beirniadu Boris

Yn ôl Lucy Powell, mae’r ffaith nad oedd Boris Johnson wedi diswyddo Matt Hancock cyn iddo allu camu o’r neilltu’n dangos bod yna “fan dall gan y prif weinidog pan ddaw i faterion yn ymwneud â gonestrwydd ac ymddygiad mewn bywyd cyhoeddus”.

“Ac mae hynny’n broblem fawr iawn,” meddai.

“Mae’n fwy o broblem pan ydych chi yng nghanol pandemig ac yn gofyn i’r cyhoedd fod yn onest ac ymddwyn yn y ffordd maen nhw’n mynd o gwmpas eu bywydau.”

Fel ‘rhoi llwynog i reoli cwt ieir’

Yn ôl Jonathan Ashworth, llefarydd iechyd Llafur yn San Steffan, mae penodi Sajid Javid i ofalu am iechyd fel “rhoi llwynog i reoli cwt ieir”.

Dywedodd wrth BBC Breakfast fod rhaid i Lywodraeth Geidwadol Prydain ddechrau “cyflwyno’r gofal o safon mae cleifion yn ei haeddu”.

Mae e wedi tynnu sylw at y 5.1m o bobol sydd ar restr aros, oedi wrth gyflwyno triniaethau canser a phobol ifanc yn cael trafferth cael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl, a hynny o ganlyniad i ddegawd o dangyllido a thoriadau.

“Sajid Javid oedd yn gyfrifol am hynny,” meddai.

“Roedd e’n weinidog yn y Trysorlys.

“Roedd e’n brif eiriolwr ar gyfer hynny, yn bensaer y llymder sydd wedi effeithio’r Gwasanaeth Iechyd ers deng mlynedd, sydd wedi ei wanhau e.

“Mewn nifer o ffyrdd, mae ei wneud e’n Ysgrifennydd Iechyd, o ystyried ei record fel pensaer llymder, ychydig fel rhoi’r llwynog i reoli cwt ieir”.

Amddiffyn Syr Keir Starmer

Mae Jonathan Ashworth wedi amddiffyn yr arweinydd Syr Keir Starmer, sydd yn cael ei feirniadu am ddiffyg craffu ar gamgymeriadau’r Llywodraeth Geidwadol.

“Dw i ddim yn credu bod hynny’n wir,” meddai wrth BBC Breakfast.

“Rydyn ni’n dîm Llafur ac yn y 48 awr diwethaf, rydych chi wedi gweld Anneliese Dodds, cadeirydd ein plaid, Angela Rayner, ein dirprwy arweinydd, fi fy hun, y llefarydd iechyd, yn siarad am fethiannau’r Llywodraeth yma.

“Rydyn ni’n dîm, rydyn ni i gyd yn siarad fel un tîm a Keir Starmer, wrth gwrs, yw capten y tîm hwnnw a dw i’n credu y bydd e’n brif weinidog o’r radd flaenaf.”

Ac mae’n dweud y dylai Matt Hancock fod wedi cael ei ddiswyddo a’i fod e’n gadael “gwaddol damniol”, ac mae’n cyhuddo Boris Johnson o fod heb “asgwrn cefn, ymwybyddiaeth a’r gallu i farnu”.

“Nid dim ond y sefyllfa y cafodd ei hun ynddi lle mae e’n torri’r rheolau y gwnaeth e eu hysgrifennu ei hun,” meddai.

“Dros 12 mis bellach, mae e wedi methu â gwarchod cartrefi gofal.

“Wnaeth e ddim gwarchod cartrefi gofal ac fe gafodd hynny ganlyniadau trasig.

“Fe anfonodd e staff y Gwasanaeth Iechyd i’r rheng flaen i wynebu feirws marwol ffyrnig a doedd ganddyn nhw mo’r cyfarpar amddiffyn cywir.

“Y system profi ac olrhain, cafodd biliynau ei wario arni a dydy hi ddim wedi gweithio.

“Dydyn ni ddim yn talu cyflog salwch priodol i bobol.

“Cyrhaeddodd amrywiolyn Delta ein glannau oherwydd nad oedd ffiniau’n ddiogel.

“Felly dwi ddim yn credu ei bod hi’n record i fod yn falch ohoni. Dw i’n credu ei bod hi’n waddol ddamniol.”

Sajid Javid

Sajid Javid yw Ysgrifennydd Iechyd newydd San Steffan

“Anrhydedd” i’r cyn-Ganghellor ac Ysgrifennydd Cartref, sy’n olynu Matt Hancock
Matt Hancock, Ysgrifennydd Iechyd San Steffan

Matt Hancock wedi ymddiswyddo

Hancock wedi ymddiswyddo fel Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ddiwrnod ar ôl i fideos ddod i’r amlwg ohono’n cusanu cynorthwy-ydd