Mae’n “hen bryd” i Lywodraeth Cymru roi mwy o fanylion am y broses ddatgloi, medd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart.
Daeth y sylw mewn ymateb i gwestiwn gan yr AS Ceidwadol, David Simmonds (AS Ruislip, Northwood a Pinner) yn San Steffan.
Awgrymu oedd David Simmond AS mai Llywodraeth Cymru ddylai ariannu cymorth i fusnesau sy’n ceisio “cadw eu pennau uwchben y dŵr” os yw’n dewis ymestyn cyfyngiadau Covid-19 yn hirach.
Cafodd Mr Simmonds ei heclo gan ASau Llafur wrth iddo awgrymu hynny.
Beirniadu Llywodraeth Cymru
Dywedodd Mr Simmonds: “Rwy’n croesawu’n fawr y cynnydd sydd wedi’i wneud yng Nghymru ond yr hyn sy’n rhwystredig i lawer yw ei bod yn ymddangos bod Llywodraeth Cymru wedi dod i’r arfer o gyhoeddi cyfyngiadau estynedig ar fyr rybudd heb ymgynghori’n briodol â’r Llywodraeth [hynny yw, Llywodraeth y Deyrnas Unedig].
“A yw [Mr Hart] yn cytuno, pe bai’r arfer hwn yn parhau, y dylem ddisgwyl i Fae Caerdydd dalu’r gost ariannol o gefnogi busnesau i gadw eu pennau uwchben y dŵr yn ystod y cyfyngiadau hynny?”
Atebodd Mr Hart: “Rwy’n sylwi bod y chwerthin wedi dod i ben pan wnaeth [Mr Simmonds] godi’r cwestiwn penodol hwnnw.”
Ychwanegodd: “Mae sicrwydd yn hanfodol iawn yn hyn oll.
“Rwyf bob amser wedi ffafrio ymateb ar sail y Deyrnas Unedig gyfan i Covid, sut bynnag y gall hynny ddigwydd, oherwydd mae’n ennyn hyder ac mae’n ysbrydoli cydymffurfiaeth.
“Rwy’n credu ei bod yn hen bryd cael rhyw fath o arwydd pellach gan Lywodraeth Cymru am y broses ddatgloi ar gyfer busnesau yng Nghymru ac rwy’n gobeithio’n fawr y byddwn yn clywed mwy cyn bo hir.”
Cefndir
Yn gynharach y mis hwn, gohiriodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, y broses leddfu cyfyngiadau Covid Cymru ymhellach am bedair wythnos mewn ymateb i gynnydd sydyn mewn achosion o’r amrywiolyn Delta.
Pan ofynnwyd am y posibilrwydd o gyfyngiadau newydd yn y dyfodol os bydd y sefyllfa yng Nghymru yn gwaethygu yn ddiweddarach yn y flwyddyn, dywedodd Mr Drakeford ei bod yn “annhebygol iawn” ond ddim yn amhosib.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gobeithio cymryd camau pellach i ddatgloi Lloegr ar 19 Gorffennaf.
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gadarnhau cymorth pellach ar gyfer busnesau sy’n dal i deimlo effaith cyfyngiadau Covid heddiw (30 Mehefin), a bydd yr arian yn talu costau gweithredu mis Gorffennaf ac Awst ar gyfer busnesau sy’n gorfod aros ar gau.
Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru wedi atgoffa busnesau manwerthu, hamdden, a lletygarwch na fydd rhaid iddyn nhw dalu unrhyw ardrethi tan fis Ebrill 2022, er bod y gostyngiad llawn yn dod i ben fory (1 Gorffennaf) yn Lloegr. Gallwch ddarllen mwy am hynny isod.