Bydd busnesau sydd dal i deimlo effeithiau cyfyngiadau Covid yn cael hyd at £25,000 o gymorth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.
Cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, heddiw (30 Mehefin) , y bydd pecyn cymorth brys yn talu costau gweithredu mis Gorffennaf ac Awst ar gyfer busnesau sy’n gorfod aros ar gau ac sy’n parhau i ddioddef yn ddifrifol yn sgil y cyfyngiadau.
Bydd busnesau cymwys yn y sectorau lletygarwch, hamdden a thwristiaeth yn gallu gwneud cais am yr arian, yn ogystal â’u cadwyni cyflenwi.
Mae’r busnesau hynny’n cynnwys asiantaethau teithio, atyniadau lle mae mesurau cadw pellter yn cyfyngu arnyn nhw, a lleoliadau ar gyfer ymweliadau ysgol.
Ceisiadau
Bydd gan fusnesau cymwys hawl i daliad ychwanegol o rhwng £1,000 a £25,000 yn dibynnu ar eu maint, eu strwythur a’u hamgylchiadau.
I fod yn gymwys, rhaid i’r busnes brofi fod eu trosiant wedi gostwng mwy na 60% o gymharu â’r llinell amser gyfatebol yn 2019, neu gyfwerth.
Bydd ceisiadau’n agor ar 13 Gorffennaf, cyn cau ar 23 Gorffennaf. Cyn hynny, bydd posib defnyddio gwefan Busnes Cymru i wirio faint o gymorth mae’r busnes yn gymwys amdano.
Er bod Llywodraeth Cymru’n rhagweld mai hwn fydd y pecyn terfynol o gymorth brys i’r busnesau hynny sy’n gallu masnachu, yn seiliedig ar gyfyngiadau presennol, bydden nhw’n adolygu’r angen am gymorth ychwanegol mewn ymateb i unrhyw amrywiolion newydd posib neu ddatblygiadau eraill.
“Popeth yn ein gallu”
“Ers dechrau’r pandemig, rydym wedi gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi busnesau Cymru,” meddai Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi.
“Rydym wedi darparu dros £2.5biliwn o gyllid i fusnesau Cymru, mewn pecyn sydd wedi’i gynllunio i ategu ac adeiladu ar y cymorth a ddarperir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
“Rydym hefyd wedi ymestyn ein pecyn rhyddhad ardrethi o 100% i fusnesau tan ddiwedd y flwyddyn ariannol hon. Mae’r dull hwn sydd wedi’i dargedu, sy’n canolbwyntio’n benodol ar gefnogi busnesau bach a chymunedau Cymru, wedi helpu i ddiogelu dros 160,000 o swyddi yng Nghymru a allai fod wedi’u colli fel arall.
“Er mwyn cefnogi busnesau ymhellach, rwyf heddiw yn cyhoeddi cymorth ychwanegol i helpu i dalu costau’r busnesau hynny yng Nghymru y mae angen iddynt aros ar gau, neu sy’n dal i ddioddef yn sgil y newid graddol yng Nghymru i Lefel Rhybudd Un, a oedd yn angenrheidiol oherwydd y risgiau a achosir gan yr amrywiolyn Delta.
“Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o wneud popeth yn ei gallu i gefnogi busnesau Cymru yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn.”
Ardrethi
Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru wedi atgoffa busnesau manwerthu, hamdden, a lletygarwch na fydd rhaid iddyn nhw dalu unrhyw ardrethi tan fis Ebrill 2022.
Bydd gostyngiadau llawn yn dod i ben yn Lloegr fory (1 Gorffennaf), ond dyw’r un ddim yn wir yng Nghymru.
Bydd manwerthwyr mewn eiddo sydd â gwerth ardrethol o hyd at £500,000 hefyd yn parhau i dderbyn gostyngiadau llawn ar eu cyfraddau am weddill y flwyddyn.
Mae’r pecyn gwerth £380 miliwn yn rhoi hwb i fusnesau bach a chanolig sy’n ei chael hi’n anodd ymdopi ag effeithiau’r pandemig, ac mae’n gweithio ar y cyd â’r cynlluniau rhyddhad parhaol sy’n darparu £240 miliwn o ryddhad i drethdalwyr ledled Cymru eleni.
“Gwrando ar y sectorau”
“Wrth i filiau ddechrau glanio yn Lloegr, rydym yn atgoffa busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru na fydd angen iddynt dalu ardrethi tan fis Ebrill 2022,” meddai Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.
“Rydym wedi gwrando ar y sectorau ac eisiau helpu siopau a lleoliadau i godi nôl ar eu traed.
“Er y gall y busnesau hyn agor erbyn hyn, mae anawsterau’r flwyddyn ddiwethaf, ynghyd â’r cyfyngiadau sy’n parhau yn eu lle, yn golygu y byddai llawer yn ei chael hi’n anodd i dalu hyd yn oed rhai o’u hardrethi arferol.”
“Ddim allan o berygl eto”
“Mae’r gefnogaeth barhaus i fusnesau Cymru’n cael ei groesawu, ac rydyn ni’n rhannu gobaith y llywodraeth mai hwn fydd y pecyn cymorth olaf,” meddai Luke Fletcher, llefarydd Plaid Cymru dros yr Economi, wrth ymateb.
“Fodd bynnag, os yw pethau’n newid er gwaeth rydyn ni’n gobeithio gweld Llywodraeth Cymru’n gweithredu.
“Mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddechrau ailfeddwl am eu hagwedd tuag at ffyrlo – os yw’r rhaglen hon yn dod i ben, rhaid cyflwyno bonws cadw swyddi.
“Er ei bod hi’n iawn gobeithio, dydyn ni ddim allan o berygl eto.”