Mae ffrae yn corddi yn ardal Doc Penfro am newidiadau i’r ddarpariaeth mewn cylch chwarae i blant bach gydag anghenion ychwanegol.
Mewn cwta bythefnos mae 1,000 o bobol wedi arwyddo deiseb mewn protest yn erbyn colli gwasanaeth Cylch Chwarae SNAP [Special Needs Assesment Playgroup] Pennar, sy’n darparu cymorth ar raddfa un aelod o staff i bob un plentyn.