Mae Wales Online yn adrodd y bydd baner Jac yr Undeb enfawr yn cael ei rhoi ar ochr Swyddfa Dreth Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yng Nghaerdydd fel rhan o ymgyrch i wneud Llywodraeth Prydain yn amlycach yng Nghymru.
Daw hyn ar ôl i Gyngor Caerdydd roi sêl bendith i’r cynlluniau gan fod y faner yn cael ei ystyried yn “hysbyseb”.
Daw’r ychwanegiad wedi canllawiau newydd ym mis Mawrth oedd yn gofyn i adeiladau llywodraeth y Deyrnas Unedig yng Nghymru chwifio Baner yr Undeb bob dydd, gyda’r rheolau’n dod i rym dros yr haf.
Mae’r un ddeddfwriaeth ynglŷn â hedfan Jac yr Undeb yn berthnasol i Loegr a’r Alban ond nid yw’n effeithio ar Ogledd Iwerddon lle mae rheolau gwahanol ar gyfer hedfan Jac yr Undeb.
Bydd sylfaen y dyluniad naw metr oddi ar y ddaear, a bydd yn mesur 32 metr o uchder a naw metr o led.
Mae adroddiad y cyngor yn nodi bod yr hysbyseb yn ddarostyngedig i derfyn amser statudol, gyda chais cynllunio Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn gofyn am gyfnod hysbysebu o 1 Mai 2021 tan 1 Mai 2026.
Cyn hyn, yr unig ofyniad oedd bod y faner yn cael ei hedfan ar holl adeiladau Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar ddiwrnodau megis pen-blwydd y Frenhines.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Diwylliant Oliver Dowden ar y pryd: “Mae baner yr Undeb yn ein huno fel cenedl ac mae pobol yn iawn i ddisgwyl iddi gael ei hedfan uwchben adeiladau Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
“Bydd y canllawiau hyn yn sicrhau bod hynny’n digwydd bob dydd, oni bai bod baner arall yn cael ei hedfan, fel nodyn atgoffa balch o’n hanes a’r cysylltiadau sy’n ein rhwymo.”