Mae bargen wedi’i tharo i osgoi “rhyfel selsig” rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd dros gludo cigoedd oer o Brydain i Ogledd Iwerddon.

Mae cyfnod gras sy’n caniatáu parhau i symud cigoedd oer ar draws Môr Iwerddon wedi’i ymestyn tan 30 Medi.

Dywedodd gweinidog Brexit, yr Arglwydd Frost: “Rydym yn falch ein bod wedi gallu cytuno ar estyniad synhwyrol ar symud cigoedd oer o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon – [datrysiad] lle nad oes angen i reolau yng ngweddill y Deyrnas Unedig gyd-fynd â newidiadau yn rheolau bwyd-amaeth yr Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol.”

Fodd bynnag, er mwyn sicrhau’r estyniad, cytunodd y Deyrnas Unedig i gynnal ei rheolau presennol mewn perthynas â chynhyrchion cig.

Cefndir

Mae gwaharddiad posibl ar gigoedd oer yn un o ganlyniadau Brexit, sydd wedi creu cyfres o rwystrau economaidd ar fasnachu. Mae protocol wedi’I lunio i osgoi ffin galed ag Iwerddon drwy gadw Gogledd Iwerddon ym marchnad sengl yr UE am nwyddau, i bob pwrpas.

Ni chaniatair cludo cigoedd oer o drydydd gwledydd i’r farchnad sengl – gwaharddiad a fydd, yn y pen draw, yn cwmpasu gweddill y Deyrnas Unedig oni bai y ceir ateb parhaol.

Mae’r Arglwydd Frost wedi cwyno dro ar ôl tro am weithrediad y protocol, er ei fod yn rhan o gytundeb Brexit a negodwyd ganddo ef ac a lofnodwyd gan Boris Johnson.

“Dyma arwydd clir iawn bod yn rhaid gweithredu’r protocol mewn ffordd bragmatig a chymesur,” meddai heddiw.

“Dim ond un o nifer fawr iawn o broblemau gyda’r ffordd y mae’r protocol yn gweithredu ar hyn o bryd yw mater y cigoedd oer, ac mae angen dod o hyd i atebion gyda’r UE i sicrhau bod y protocol yn cyflawni ei amcanion gwreiddiol: sef diogelu Cytundeb Belfast (Dydd Gwener y Groglith), diogelu lle Gogledd Iwerddon yn y Deyrnas Unedig, a diogelu marchnad sengl yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer nwyddau.

“Rydym yn edrych i weithio’n egnïol gyda’r Undeb Ewropeaidd i wneud hynny.”

Rhagor o fanylion

Dim ond mewn archfarchnadoedd y bydd y cynhyrchion o Brydain Fawr yn cael eu gwerthu, bydd tystysgrifau swyddogol yn cyd-fynd â nhw, a byddant wedi’u labelu i egluro eu bod ar werth yn y Deyrnas Unedig yn unig – sy’n golygu na ellir caniatáu iddynt groesi i Iwerddon a marchnad sengl yr Undeb Ewropeaidd.

O dan y fargen, bydd y Deyrnas Unedig yn ymdrechu i gyflwyno labeli ar gyfer cynnyrch “cyn gynted ag y bo’n ymarferol”.

Dyfarniad yn yr Uchel Lys

Yn y cyfamser, mae unoliaethwyr yn honni fod dyfarniad yn yr Uchel Lys ar gyfreithlondeb y trefniadau ôl-Brexit yng Ngogledd Iwerddon wedi cadarnhau bod sefyllfa gyfansoddiadol y rhanbarth o fewn y Deyrnas Unedig wedi cael ei “difrodi”.

Gwrthododd Mr Ustus Colton heriau cyfreithiol yn erbyn cyfreithlondeb Protocol Gogledd Iwerddon yn yr Uchel Lys yn Belfast ddydd Mercher.

Fodd bynnag, bu iddo gytuno â’r ddadl bod y Ddeddf Ymadael, sy’n cynnwys y Protocol, yn gwrthdaro â Deddfau Uno 1800 – er iddo hefyd ddweud nad oedd hyn yn anghyfreithlon gan fod y Ddeddf Ymadael i bob pwrpas yn rhagori ar ddarpariaethau’r gyfraith 200 mlwydd oed.

Dywedodd arweinydd newydd y DUP, Syr Jeffrey Donaldson, fod y dyfarniad yn “wleidyddol arwyddocaol”.

“Niweidio ein sefyllfa gyfansoddiadol yn y Deyrnas Unedig”

Dywedodd: “Mae’n cadarnhau bod y Protocol yn niweidio ein sefyllfa gyfansoddiadol yn y Deyrnas Unedig … Os na chaiff hyn ei ddatrys, bydd yn arwain at ganlyniadau posibl i sefydlogrwydd sefydliadau gwleidyddol yn y dyfodol.”

Dywedodd cyn-arweinydd yr UUP Steve Aiken, a oedd yn un o’r rhai a fynnodd yr adolygiad barnwrol, fod y mater o “mor sylweddol” fel bod angen apelio at lys uwch.

Dywedodd:”Mae’r dyfarniad hwn yn effeithio ar bob rhan unigol o’r Deyrnas Unedig. Mae gan y dyfarniad y potensial i osod cynsail eang ar draws ein cenedl gyfan.

“Dylai’r ffaith fod y barnwr wedi canfod bod y Ddeddf Ymadael, sy’n cynnwys y Protocol, yn gwrthdaro â Deddf Uno 1800 mewn perthynas â masnach rydd rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon fod yn fater o bryder mawr i bawb.

“Mae iddo oblygiadau i bob un ohonom p’un a ydym yn Saeson, Albanwyr, Cymry neu o Ogledd Iwerddon… pawb sy’n blaenoriaethu cysylltiadau diwylliant, teulu, busnes a masnach.”

Ychwanegodd arweinydd y TUV, Jim Allister, un arall oedd yn gyfrifol am yr her gyfreithiol: “Mae’r canfyddiad allweddol yn y dyfarniad llys heddiw bod y Protocol wedi diddymu elfen allweddol o’r Deddfau Uno yn rhybudd i bob unoliaethwr.

“Cadarnhawyd bellach bod y Protocol yn datgymalu’r Undeb.”

“Protocol yn ateb cymhleth i’r sefyllfa gymhleth yr ydym wedi cael ein rhoi ynddi”

Croesawodd Sinn Fein, yr SDLP a Phlaid y Gynghrair ddyfarniad y llys, a dywedodd ei bod yn bryd bwrw ati i wneud i’r Protocol weithio.

Trydarodd dirprwy Brif Weinidog Sinn Fein, Michelle O’Neill: “Mae’r Protocol yn ganlyniad i’r Brexit caled a hyrwyddwyd gan y Torïaid a’r DUP. Mae’n cyfyngu ar effaith Brexit.

“Does dim dewis amgen credadwy. Mae’n amser bwrw ymlaen â gwneud iddo weithio.”

Ategwyd hynny gan AS yr Alliance Party, a’i llefarydd Brexit, Stephen Farry a ddywedodd: “Dylai’r rhai a gyflwynodd yr adolygiad barnwrol hwn gymryd sylw o’r dyfarniad a rhoi’r gorau i geisio paentio’r Protocol mewn termau cyfansoddiadol a’i wneud am hunaniaeth. Yn hytrach, byddent yn llawer gwell yn ymuno ag eraill i ganolbwyntio ar atebion pragmatig i’r problemau a achosir ganddo.”

Dywedodd Matthew O’Tool, Aelod Cynulliad yr SDLP, wrth y BBC: “Mae Brexit wedi bod, o’r dechrau i’r diwedd, yn drychineb i Ogledd Iwerddon, roedd bob amser yn mynd i fod felly.

“Byddai’n well gennyf pe na ydym wedi mynd i mewn i’r sefyllfa hon yn y lle cyntaf, mae’r Protocol yn ateb cymhleth i’r sefyllfa gymhleth yr ydym wedi cael ein rhoi ynddi.”