O fewn ychydig oriau’n unig, mae mwy na 3,000 o bobol wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu ailenwi’r ail Bont Hafren yn ‘Bont Tywysog Cymru’.

Mae’r ddeiseb yn galw ar Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, i ail-feddwl, ac mae nifer o bobol wedi ymateb yn chwyrn i’r penderfyniad a gafodd ei gyhoeddi gan Lywodraeth Prydain heddiw heb ymgynghori â Chymru o gwbwl.

Dywed Alun Cairns y byddai enwi’r bont ar ôl y Tywysog Charles yn “deyrnged addas” iddo yn ystod blwyddyn ei ben-blwydd yn 70 oed.

Fe ddaeth i’r amlwg heddiw nad oedd Llywodraeth San Steffan wedi ymgynghori â neb yng Nghymru ynghylch y newid enw, ond bod Ysgrifennydd Cymru wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog, Carwyn Jones, y llynedd, yn nodi bod hyn yn mynd i ddigwydd.

Dywedodd llefarydd ar ran Carwyn Jones, nad oedd wedi codi unrhyw wrthwynebiad ar y pryd.

Mae Llywydd y Cynulliad, Elin Jones, wedi dweud ar Twitter na chafodd yr Aelodau Cynulliad eu hymgynghori ar yr enw.

Ac mae eraill ar y cyfryngau cymdeithasol wedi mynegi eu barn ar yr enw: