Mae dyn 22 oed o Sir Benfro wedi cael ei garcharu am gyfnod o naw mlynedd, ar ôl iddo wneud niwed corfforol difrifol i berson yn ystod lladrad.

Yn Llys y Goron Abertawe ddechrau’r wythnos (dydd Mawrth, 3 Ebrill), fe blediodd Daniel Watts o Gil-maen ger Penfro, i gyhuddiad o ladrata, gan dderbyn naw mlynedd o garchar am y drosedd, ynghyd â gorchymyn i beidio â chysylltu â’r dioddefwr am ddeng mlynedd.

Fe blediodd Benjamin Rowe Watson, 46 oed, o Gil-maen, a oedd yn rhan o’r un digwyddiad, yn euog i gyhuddiad o ladrata hefyd, ac fe gafodd dair blynedd o garchar.

Roedd y ddau wedi ymosod ar berson yn ystod y bore ar Dachwedd 22, a hynny yn ei gartref yng Nghil-maen.

Fe gafodd y dioddefwr ei daro yn ei wyneb, gan dorri ei drwyn, a hynny cyn i’r ddau lleidr ddwyn arian oddi wrtho. Fe gafodd Daniel Watts a Benjamin Rowe Watson eu harestio y diwrnod canlynol.

Yn ôl llefarydd ar ran Heddlu-Dyfed Powys, mae cadw Daniel Watts i ffwrdd o strydoedd Sir Benfro am nifer o flynyddoedd yn “ganlyniad gwych”.