Mae tîm criced Sussex wedi curo Morgannwg o 33 o rediadau mewn gêm ugain pelawd yn y Vitality Blast, gyda chwaraewr gafodd ei eni yng Nghymru a throellwr coes 16 oed yn serennu i’r ymwelwyr.
Sgoriodd y Saeson 201 am wyth ar ôl dewis batio, gyda Phil Salt, sy’n enedigol o Fodelwyddan, yn sgorio 63 oddi ar 35 o belenni, gyda naw pedwar ac un chwech, a Luke Wright yn sgorio 77 oddi ar 41 o belenni, gydag 11 pedwar a thri chwech, mewn partneriaeth agoriadol o 144 mewn 12.3 o belawdau.
Cipiodd Lenham bedair wiced am 26 wrth i Forgannwg gael eu bowlio allan am 168 mewn 18.4 o belawdau.
Batiad Sussex
Sicrhaodd Wright a Salt eu bod nhw’n arwain Sussex i fuddugoliaeth yn gynnar iawn yn y gêm, wrth gyrraedd 77 heb golli wiced yn y cyfnod clatsio.
Erbyn i’r ddau golli eu wicedi yn erbyn bowlio Dan Douthwaite yn y drydedd pelawd ar ddeg, roedd yr ysgrifen ar y mur i Forgannwg.
Cafodd Salt ei fowlio gan Douthwaite cyn i Wright gael ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke i adael Sussex mewn sefyllfa gref iawn ar 145 am ddwy gyda mwy na chwarter y batiad yn weddill.
Collon nhw eu ffordd ychydig bach yn niwedd y batiad, gan golli wicedi’n gyson ond roedd yr agorwyr eisoes wedi gosod seiliau cadarn iawn.
Cafodd Ravi Bopara ei ddal gan James Weighell yn safle’r trydydd dyn oddi ar fowlio Callum Taylor yn yr unfed belawd ar bymtheg cyn i Roman Walker daro coes David Wiese yn y belawd ganlynol, gyda Sussex yn 173 am bedair.
Roedden nhw’n 174 am bump yn y ddeunawfed belawd wrth i Harrison Ward gael ei ddal gan Billy Root yn y cyfar oddi ar fowlio Weighell.
Collon nhw eu chweched wiced yn y belawd olaf ond un, wrth i’r Awstraliad Travis Head gael ei ddal gan Kiran Carlson wrth yrru ar ochr y goes oddi ar fowlio Douthwaite, oedd wedi gorffen ei bedair pelawd gyda thair wiced am 28.
Roedd tair wiced hefyd i Roman Walker, wrth i Will Beer gael ei ddal gan Billy Root yn tynnu’r bêl, cyn i Aaron Thomason gael ei ddal gan Douthwaite oddi ar belen ola’r batiad.
Cwrso’n arwrol ond yn ofer
Ar ôl ymgyrch siomedig, fyddai hi ddim wedi bod yn syndod pe bai Morgannwg wedi chwalu’n gynnar yn y batiad, ond fe ddaethon nhw allan yn benderfynol o fynd amdani wrth gwrso 202 i ennill.
Roedden nhw’n 61 heb golli wiced erbyn diwedd y cyfnod clatsio wrth i’r ddau Gymro, Kiran Carlson a David Lloyd agor y batio.
Ond cafodd Carlson ei ddal gan Head am 22, yn gyrru ar ochr y goes oddi ar fowlio Ravi Bopara yn y seithfed pelawd, cyn i Colin Ingram gael ei redeg allan gan Tymal Mills ym mhelawd nesaf Bopara i adael Morgannwg yn 74 am ddwy.
Cyrhaeddodd Lloyd ei hanner canred oddi ar 27 o belenni yn y degfed pelawd cyn cael ei ddal gan Will Beer yn sgwâr ar ochr y goes oddi ar fowlio Lenham am 51.
Cipiodd Lenham wiced y capten Chris Cooke yn ei belawd nesaf, wrth i’r batiwr gael ei ddal gan y wicedwr Phil Salt am 11 i adael Morgannwg yn 95 am bedair.
Tarodd Dan Douthwaite bedwar chwech mewn dwy belawd i sicrhau bod Morgannwg yn dal yn y gêm ar 133 am bedair ar ôl pedair pelawd ar ddeg.
Ond tarodd Lenham yn ôl unwaith eto yn ei drydedd pelawd, wrth i Douthwaite gael ei ddal gan David Wiese yn gyrru ar ochr y goes am 35 i adael Morgannwg yn 139 am bump, cyn i’r bowliwr daro coes James Weighell o flaen y wiced cyn diwedd y belawd.
Cafodd Billy Root ei ddal gan Luke Wright yn y cyfar oddi ar fowlio Mitch Claydon yn yr ail belawd ar bymtheg ac roedd gobeithion Morgannwg bron iawn ar ben erbyn hynny ar 141 am saith.
Cafodd Sam Pearce ei ddal gan Lenham yn safle’r trydydd dyn yn y ddeunawfed pelawd a gafodd ei bowlio gan Bopara, cyn i Callum Taylor gael ei ddal gan yr eilydd Stuart Meaker ac Andrew Salter yn cael ei fowlio wrth i Wiese gipo dwy wiced mewn dwy belen i ddod â’r ornest i ben.