Mae’r cricedwr Ollie Robinson yn cael chwarae eto ar ôl i Fwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) ddweud eu bod nhw wedi cwblhau eu hymchwiliad i negeseuon hiliol a rhywiaethol ar dudalen Twitter y bowliwr cyflym.

Cafodd Robinson, sy’n chwarae i Sussex a Lloegr, ei wahardd dros dro ar ôl i’r negeseuon ddod i’r amlwg ar ei ddiwrnod cyntaf yn gricedwr rhyngwladol, wrth i Loegr herio Seland Newydd yn ddiweddar, a hynny ar ddiwrnod pan oedd yr ECB yn cynnal diwrnod dathlu amrywiaeth yn y byd criced.

Daeth cadarnhad gan y Comisiwn Disgyblaeth Criced ei fod e wedi cael ei wahardd am wyth gêm, a phump ohonyn nhw’n ohiriedig, a’i fod e bellach wedi colli tair gêm ac y gall e ddychwelyd eto.

Yn ogystal, cafodd e ddirwy o £3,200.

Cafodd y negeseuon dan sylw eu postio rhwng 2012 a 2014 pan oedd e yn ei arddegau, ac fe wnaeth e gyfaddef ei fod e wedi torri cod ymddygiad yr ECB wrth bostio’r negeseuon.

Ar ôl i Loegr ei wahardd, tynnodd Robinson yn ôl o chwarae i Sussex ar yr un pryd.

Yn ôl yr awdurdodau, fe wnaethon nhw ystyried yr amser aeth heibio ers i’r negeseuon gael eu postio a’r newid a fu yn ei agwedd ers hynny.

Gallai cricedwyr gael eu cosbi ymhellach fel rhan o adolygiad o gyfrifon cyfryngau cymdeithasol

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn ffrae yn ymwneud â negeseuon nifer o gricedwyr blaenllaw
Lord's

Gwleidyddion yn lleisio barn am helynt sylwadau hiliol a rhywiaethol gan gricedwr Lloegr

Boris Johnson ac Oliver Dowden yn teimlo bod y gosb gafodd Ollie Robinson yn rhy eithafol, ond un aelod seneddol yng Nghymru’n anghytuno
Lord's

Ymchwilio i negeseuon hiliol a rhywiaethol cricedwr Lloegr ddaeth i’r fei ar ddiwrnod dathlu amrywiaeth

Mae’r helynt yn gysgod dros ddiwrnod “criced yn gêm i bawb” ar ddechrau gêm gynta’r bowliwr Ollie Robinson dros ei wlad