Fe fydd Leigh Halfpenny yn ennill ei ganfed cap rhyngwladol heddiw (dydd Sadwrn, Gorffennaf 3), wrth i dîm rygbi Cymru herio Canada yn Stadiwm Principality.
Hwn yw cap rhif 96 y cefnwr dros Gymru, gyda’r pedwar arall yn dod yng nghrys y Llewod.
Fe yw’r wythfed Cymro i gyrraedd y garreg filltir, ar ôl Alun Wyn Jones, Gethin Jenkins, Stephen Jones, Gareth Thomas, Martyn Williams, Adam Jones a George North.
Daw’r garreg filltir yn erbyn y tîm y sgoriodd ei gais cyntaf yn eu herbyn 13 o flynyddoedd yn ôl.
“Yn blentyn, fe ges i freuddwyd am chwarae dros Gymru ac ennil cap cyntaf,” meddai.
“Dydych chi byth yn cymryd cael eich dewis yn ganiataol a dw i’n hynod ddiolchgar am y cyfle ac i’r holl bobol sydd wedi fy helpu ar hyd y ffordd.
“Heb yr holl gymorth hwnnw, fyddai e ddim yn bosib a fyddwn i ddim yma heddiw.”
Torf am y tro cyntaf ers 16 mis
Fe fydd torf yn Stadiwm Principality am y tro cyntaf ers 16 mis, gydag 8,200 o bobol yn cael bod yno.
“Fe fu’n flwyddyn anodd, ond mae’n destun cyffro mawr gweld y cefnogwyr yn ôl yn y stadiwm,” meddai Halfpenny, sy’n dweud bod ei deulu wedi cael hyd at 20 o docynnau.
“Dw i’n sicr y bydd yr 8,000 yn gwneud iddi swnio fel pe bai’r lle’n llawn a dw i’n teimlo’n eithriadol o lwcus o allu cael fy nheulu yno ar gyfer y gêm.
“Maen nhw i gyd yn dod i fyny, gan gynnwys fy rhieni, fy mhartner Jess a Lily [eu merch].”
Gyrfa
Mae Leigh Halfpenny wedi sgorio 778 o bwyntiau mewn 95 o gemau dros Gymru.
Dim ond Neil Jenkins a Stephen Jones sydd wedi sgorio mwy.
Mae e hefyd wedi sgorio 49 o bwyntiau i’r Llewod, ac fe gafodd ei enwi’n Chwaraewr y Gyfres yn erbyn Awstralia yn 2013.
Roedd e hefyd yn aelod o garfan y Llewod yn 2009 a 2017.
Ond mae e hefyd wedi dioddef yn sgil anafiadau, gan golli’r cyfle i chwarae yng Nghwpan y Byd 2015.
“Mae’n anodd ymdopi ag anafiadau,” meddai.
“Rydych chi eisiau bod allan yno’n chwarae.
“Dw i wedi cael nifer o anafiadau, ond roedd yr anaf i’r ben-glin yn 2015 ar drothwy Cwpan y Byd yn un arbennig o anodd ymdopi â hi yn nhermau pa mor hir mae’r anafiadau hyn o ran adfer.
“Mae yna adegau pan nad ydych chi’n gwybod a fyddwch chi’n dychwelyd yr un fath.
“Rydych chi’n cael yr amheuon hynny ond yn ceisio aros yn bositif a chanolbwyntio ar yr hyn y gallwch chi ei reoli.”