Mae’r chwaraewr 16 oed Dan Ibrahim wedi taro hanner canred i achub Sussex ar ail ddiwrnod eu gêm Bencampwriaeth yn erbyn Morgannwg yn Hove.

Sgoriodd e 55 heb fod allan yn ei gêm gyntaf i’r sir fis diwethaf, ac fe sgoriodd e 58 yn ei fatiad diweddaraf wrth i’w dîm sgorio 226 yn eu batiad cyntaf.

Roedd Morgannwg yn 205 am naw erbyn diwedd y dydd.

Diwedd batiad Sussex

Roedd Sussex yn 161 am saith ar ddechrau’r diwrnod ac fe ychwanegon nhw ddau rediad cyn i Jack Carson daro’r bêl i’w wiced ei hun yn yr ail belawd, a chael ei fowlio gan Michael Hogan heb sgorio.

Ond gydag Ibrahim yn batio’n bwyllog, ychwanegodd e, Stuart Meaker a Mitch Claydon 63 at y cyfanswm am y ddwy wiced olaf.

Cafodd Meaker ei ddal gan Timm van der Gugten oddi ar fowlio’r troellwr Andrew Salter am 23, gydag Ibrahim allan am 58 oddi ar 147 o belenni wrth iddo fe gael ei stympio gan Chris Cooke oddi ar fowlio’r troellwr.

Batiad Morgannwg

Cafodd Joe Cooke ei fowlio gan Meaker am chwech cyn i Colin Ingram, yn ei fatiad Pencampwriaeth cyntaf ers 2017, gael ei ddal gan y wicedwr Ben Brown oddi ar belen uchel gan Mitch Claydon am saith i adael Morgannwg yn 28 am ddwy.

Ychwanegodd Billy Root a David Lloyd 54 am y drydedd wiced cyn i Lloyd gael ei fowlio gan Meaker am 38 cyn i Kiran Carlson orfodi naid gan Aaron Thomason yn y slip oddi ar fowlio Claydon am 17.

Erbyn hynny, roedd Morgannwg yn 111 am bedair ond roedden nhw’n 117 am bump wrth i Stiaan van Zyl daro coes Root o flaen y wiced am 37.

Ychwanegodd Chris Cooke a Dan Douthwaite 40 cyn i Douthwaite, oedd wedi cael ei ollwng ar 15, gael ei ddal yn y slip wrth yrru ar gam at Oli Carter oddi ar fowlio Will Beer.

Cafodd Chris Cooke ei ddal yn isel ac yn agos gan Thomason oddi ar fowlio Jack Carson i adael Morgannwg yn 187 am saith.

Cipiodd Beer ail wiced wrth fowlio James Weighell wrth iddo fe gynnig ergyd amddiffynnol wan.

Yn y belawd nesaf, cafodd Timm van der Gugten ei ddal ar ochr y goes gan Meaker oddi ar fowlio Carson, gyda Morgannwg yn 188 am naw.

Daeth pwynt bonws i Forgannwg cyn i’r glaw ddod â’r chwarae i ben, a chael a chael yw hi gyda deuddydd yn weddill o’r ornest.